Mae’n brynhawn perffaith ar gyfer y teulu cyfan, gyda chyfle i brynu cynnyrch lleol a Chymreig ag anrhegion nadolig.  Bydd yna marquee yn arbennig ar gyfer plant yn llawn gweithgareddau i’w diddanu tra gall y rhieni fynd o amgylch y stondinau.  Hefyd, bydd Siôn Gorn yn ymuno â ni eto eleni.  Yn ogystal â’r stondinau’n gwerthu amrywiaeth o fwydydd a chrefftau, bydd yna hefyd digonedd o adloniant gyda phlant ysgol a chorau lleol yn canu carolau Nadoligaidd.  Mae parcio a mynediad i’r ffair am ddim.

 

 

Hoffwch chi gael stondin?

 

Os hoffwch gael stondin danfonwch e-bost i helen[at]mentercaerffili.org neu ffoniwch 01443 820913 am fwy o wybodaeth a ffurflen archebu.

 

Hoffwch chi noddi'r Ffair?

 

Eleni bydd sawl cyfle i gwmnïau neu unigolion i noddi'r digwyddiad.  Os oes gyda chi diddordeb mewn noddi'r Ffair danfonwch e-bost i helen[at]mentercaerffili.org neu ffoniwch 01443 820913.

Text Box: MENTER IAITH SIR CAERFFILI
YMCA, Aeron Place, Gilfach, Bargoed, CF81 8JA
Ffôn:  01443 820913     E-bost:  menter[at]caerffili.org