Newyddion Menter Caerffili
		<language>en</language>
		<sy:updateFrequency>1</sy:updateFrequency>
Hysbyseb Swydd - Gwaith Achlysurol
<description>Diddordeb mewn gwaith achlysurol?
Mae Techniquest yn chwilio am Gyfathrebwyr Gwyddoniaeth/Cyflwynwyr
Termau’r Swydd: Parhaol, Achlysurol Rhan Amser
Cyflog: £6.10 y.h.
Lleoliad: Wedi lleoli yn Techniquest, Bae Caerdydd (er y bydd gwaith mewn ysgolion a lleoliadau eraill yn hanfodol)
Disgrifiad:
Mae Techniquest ym Mae Caerdydd yn darparu gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos, 362 diwrnod y flwyddyn ar gyfer ymwelwyr sydd eisiau profiad gwyddonol hwyliog ac addysgiadol. 21/2/2012 </description>
Hysbyseb Prentisiaeth
<description>Prentis Gwaith Ieuenctid
Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid y Basement a Menter Iaith Sir Caerffili
£13,589 - £15,444
Llawn Amser / Cyfnod penodedig
Dyddiad cau : 10/02/2012
Mae’r cynllun Prentisiaeth Cenedlaethol yn swydd sydd wedi’i ariannu yn llawn, sy’n ffocysu ar ddarparu cyfleoedd i’r rheini sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gyda ffocws ychwanegol ar rheini sy’n gadael ysgol, ond gall rhywun o unrhyw oedran ymgeisio. 26/1/2012 </description>
Hyfforddiant am ddim i Bobl Ddi-waith dros 50 oed
<description>Ar hyn o bryd mae Ambiwlans St John Cymru yn cynnig hyfforddiant cyfrifiaduron a chymorth cyntaf i bobl ddi-waith dros 50 oed.  I weld os ydych chi'n gymwys i dderbyn hyfforddiant am ddim, cysylltwch â Maria Thomas ar 07990 835 995 neu e-bostiwch maria. 20/1/2012 </description>
Cylch Cinio Nadolig, 16 Rhagfyr
<description>Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn y Nadolig, cynhaliwyd Cylch Cinio Nadolig y Fenter yn nhafarn Pontygwindy, Caerffili eleni.
Roedd Derek wedi addo 10cm o eira y bore hwnnw, ond wrth lwc, roedd hi’n ddiwrnod gweddol braf er ei fod yn oer. 19/12/2011 </description>
Cân i Gymru
<description>Mae Cân i Gymru yn chwilio am gyfansoddwyr talentog sydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 2012.  Ar wahân i ennill y teitl nodedig caiff ennillydd y gystadleuaeth wobr o £7,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. 12/12/2011 </description>
Neges Bwysig gan RhAG - Buddugoliaeth!
<description>Bydd cefnogwyr yr iaith Gymraeg wrth eu boddau yn deall bod yr arian y bu RhAG yn ymladd amdano ar gyfer datblygu Sant Ilan yn Ysgol Uwchradd Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau heddiw y byddai £92 miliwn ar gael i Gaerffili ar gyfer amryw brosiectau, a hwn yw'r cynllun sydd ar y brig. 5/12/2011 </description>
Hwyl a Sbri i bawb yn y Ffair Nadolig
<description>Cynhaliwyd Ffair Nadolig y Fenter yn Llancaiach Fawr ar y 26ain o Dachwedd ac roedd hi'n boblogaidd a llwyddiannus dros ben.  Cawsom dros 600 o ymwelwyr a deithiodd o bob ardal yn Sir Caerffili i ddod i'r Ffair. 30/11/2011 </description>
Gweithgareddau Mudiad Meithrin
<description>*	Dewch i Chwarae Aberbargoed, clwb rhiant a phlentyn - arweinydd newydd - Claire, arweinydd Cylch Meithrin Aberbargoed.  Dyddiad newydd - bob Dydd Iau, tymor yr ysgol 12.15-1.45pm. 4/11/2011 </description>
Cwis Cymraeg yn y Cwrt Rawlin
<description>Daeth griw da i noson gwis y Fenter neithiwr yn nhafarn y Cwrt Rawlin yng Nghaerffili, gan gynnwys pobl leol a myfyrwyr o Goleg Llandrillo ger Y Rhyl.  Mae'r myfyrwyr yn ymweld â'r ardal ar hyn o bryd fel rhan o gynllun cyfnewid â Choleg Ystrad Mynach. 13/10/2011 </description>
Lleol.net
<description>Mae gwefan gyffrous newydd Lleol.net ar fin cael ei lansio.
Fe fydd y wefan yn cynnwys rhyngwyneb, nodweddion ac adrannau newydd a fydd yn hwyluso profiad y defnyddwyr a'r hysbysebwyr. 12/10/2011 </description>
Apêl am Wirfoddolwyr i Helpu yn Eisteddfod y Cymoedd 14.10.11
<description>Cynhelir Eisteddfod y Cymoedd yn Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach, nos Wener 14ain o Hydref.  Mae trefnwyr y digwyddiad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu stiwardio am ddwy awr yn unig rhwng 4:00 ac 11:00. 7/10/2011 </description>
Yn eisiau: gwirfoddolwyr brwdfrydig ar gyfer 
gwasanaeth cymorth canser newydd
<description>Mae gwasanaeth arloesol sy'n cynnig cymorth ymarferol i bobl sydd wedi�u heffeithio gan ganser a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i redeg y cynllun. 6/10/2011 </description>
Sioe Only Men Aloud
<description>Ychydig o wythnosau yn ôl, aeth 30 o bobl o ardal Caerffili i weld sioe teledu newydd Only Men Aloud yn cael ei recordio yn Stiwdio'r Ddraig, Pencoed.  Roedd y sioe yn wych gyda thân gwyllt dan do, miloedd o oleuadau llachar, llwyfan enfawr a'r bechgyn eu hunain wrth gwrs. 19/9/2011 </description>
Apêl Cylchoedd Ti a Fi
<description>Mae Cylchoedd Ti a Fi yn cynnig cyfleoedd i rieni a phlant ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg a strwythuredig.
Mae Cylch Ti a Fi Maesycwmmer a Chylch Ti a Fi Hengoed yn chwilio am rywun i arwain sesiynau unwaith yr wythnos o fis Medi. 8/9/2011 </description>
Darn Bach o Hanes
<description>Mae cwmni teledu Cwmni Da ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth wrth ymchwilio cyfres newydd ar S4C o'r enw 'Darn Bach o Hanes', sy'n edrych am y straeon y tu ôl i greiriau hanesyddol adnabyddus a llai adnabyddus yng Nghymru. 25/8/2011 </description>
Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
<description>Buodd staff Menter Caerffili yng Nghae Capel yn Gilfach ddydd Mercher i gefnogi Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.  Roedd Emily o dan gasibo'r Fenter yn mwyhau cysgodu rhag yr haul crasboeth, tra ei bod hi'n croesawu plant i greu golygfa hafaidd gan ddefnyddio darnau o bapur lliwgar. 5/8/2011 </description>