Newyddion 2

Gŵyl Gymraeg ar y Gweill

Gŵyl Gymraeg ar y Gweill
Mae Menter Caerffili yn falch i’w chyhoeddi bod nhw wedi derbyn nawdd o’r Gronfa Allweddol Cwm a Mynydd Caerffili i ddechrau prosiect newydd a chyffrous i greu Gŵyl Gymraeg blynyddol yng Nghaerffili o’r enw ‘Ffiliffest’.

Cynhelir yr Ŵyl eleni ar 26ain a 27ain o Fehefin yng nghanol Caerffili ar feysydd chwarae Owain Glyndŵr, Heol y Cilgant. Bydd yna amrywiaeth o weithgareddau, adloniant, cerddoriaeth a stondinau gan fusnesau lleol yn gwerthu nwyddau a chrefftau Cymreig.

Mae’r Fenter wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gydag amrywiaeth o fudiadau a grwpiau i gynllunio’r Ŵyl. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth unigolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect mewn unrhyw ffordd - beth am gynnal stondin neu gynnig gweithgaredd yn Ffiliffest er mwyn codi ymwybyddiaeth o’ch grŵp? Neu efallai bod diddordeb gyda’ch Côr neu’ch Band perfformio yn y digwyddiad?

Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i stiwardio ac i’n cynorthwyo i hysbysebu’r digwyddiad felly beth bynnag gallwch chi gynnig, cysylltwch â ni am sgwrs ar 01443 820913 neu e-bostiwch emilycole@mentercaerffili.org.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Ffiliffest yma: http://caerffili.org/cymraeg/ffiliffest.php


07/04/2010

Twmpath Gŵyl Dewi

Twmpath Gŵyl Dewi
Cynhaliwyd Twmpath Gŵyl Dewi Menter Caerffili eleni mewn safle newydd, sef Y Gleren Werdd, ym Medwas, a daeth dros 80 o bobl, o bob cor y byd e.e. Malta, Seland Newydd ac America.

Roedd yr ystafell yn maint berffaith, gyda llawr dawnsio mawr. Roedd y tocynnau’n £5 y pen yn fargen, gan gynnwys cludiant dwy ffordd, mynediad i’r twmpath ac amrywiaeth o gaws, bara a bisgedi.

Darparwyd yr adloniant gan Ddawnswyr Nantgarw, a gychwynodd y noson gyda sawl dawns werin draddodiadol, wedyn daeth cyfle i bawb dwmpathu. Cafwyd llawer o hwyl a sbri gan bawb, a hefyd clywom enw a hanes pob dawns.

Roedd egwyl i bawb ddal eu hanadl a mwynhau caws o bob math gan gynnwys Caerffili (wrth gwrs!), Cheddar Cymreig, Brie ac eraill, cyn mynd yn ôl i’r dawnsio.

Diolch yn fawr i bawb a brynodd tocynnau. Roedd yn braf iawn i weld cymaint o wynebau newydd.

Gellir gweld mwy o luniau y Twmpath yma.
Twmpath Gŵyl Dewi
08/03/2010

Sioe Gymunedol NEW.i.D.

Dewch yn rhan o NEW.i.D.

Mae sioe ‘NEW.i.D’ yn delio â sut mae straeon a thraddodiadau yn cael eu hanghofio o genhedlaeth i genhedlaeth a sut mae hyn yn effeithio ar ein hunaniaeth fel Cymry.

Mae’r sioe wedi ei lleoli mewn ysbyty hudol, tanddaearol lle mae chwedlau a thraddodiadau yn mynd wrth iddynt gael eu anghofio ym Mlaenau’r Cymoedd. Yr unig beth sy’n eu cadw’n fyw yw cof llond dwrn o bobl, gofal hudol y tylwyth teg a phwerau iachau ffynnon tanddaearol. Bydd y gynulleidfa yn gweld eu byd modern mewn modd unigryw ar ddwy sgrin anferth ar bob ochr i’r llwyfan, trwy lygaid y cymeriadau chwedlonol.

Mae’r sefyllfa’n gwaethygu yn yr ysbyty hudol wrth i genhedlaethau ifancaf Blaenau’r Cymoedd gael eu geni heb cof byw o gyfnod chwedlonol y diwydiant glo, haearn a dur. Wrth i’r cymeriadau a’r traddodiadau diwydianol ddechrau llifo fewn i stafelloedd aros yr ysbyty, mae’n rhaid i’r tylwyth teg ddod o hyd i ateb ar frys. Bydd yn rhaid iddynt ddanfon rhai o’r creaduruaid chwedlonol fewn i’r byd modern i ddod o hyd i atebion.

Bydd pob agwedd o’r sioe yn cael ei ddatblygu o fewn cymunedau Blaenau’r Cymoedd o dan arweiniad Celf ar y Blaen ar ffurf gweithdai. Bydd oleiaf 2,000 o bobl o’r ardal yn cyfranu i’r perfformiad theatrig unigryw a fydd yn cyfuno drama byw llwyfan, cerddoriaeth a ffilmiau gwreiddiol, perfformwyr stryd a thafluniadau. Mae’r Cyfarwyddwyr Artistig yn cyfuno arbenigedd theatrig a pherfformio Einir Sion (Satellite City; Con Passionate) a sgiliau technegol a chreadigol y Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd teledu Lleucu Meinir. Apwyntiwyd y Cyfarwyddwr Cerddorol uchel ei pharch Helen Woods i ddatblygu corau cymunedol, gweithdai gamelan ac ysgrifennu caneuon yn ogystal ag i gyfansoddi’r gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y sioe. A bydd y cynllunydd set/gwisgoedd, Suzi Dorey, sydd newydd gael ei hapwyntio yn dod â dawn greadigol unigryw i’r sioe gyda’i mîn modern.

Cysylltwch a Celf ar y Blaen am fwy o wybodaeth: info@head4arts.org.uk
24/03/2010

Cylch Llenyddol

Cylch Llenyddol
Mae Cylch Llenyddol Bro Elyrch yn awr yn ei 24ain tymor, ac mae amserlen ar gyfer cyfarfodydd 2010 wedi'i threfnu. Mae'r amserlen i'w gweld yma.

Cynhelir y Cyfarfodydd yn Ysgol Bro Sannan ar nos Iau, gan gychwyn am 7:30 oni nodir yn wahanol.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Ben Jones 02920 862428
22/01/2010

Digwyddiadau

Menter Caerffili
Cylch Cinio. Dewch i gael cinio gyda ni ac ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. I archebu lle, gysylltwch â Menter Caerffili 01443 820913 menter@caerffili.org
Tafarn Arglwydd Nelson, Nelson
12:00 Dydd Gwener 10/09/2010

Menter Caerffili & Sustrans
Taith Beicio. Mae'r daith yn addas i bawb felly dewch â'r teulu i fwynhau tipyn bach o awyr iach! Gellir llogi beiciau am ddim, ond rhaid eu harchebu gyda Menter Caerffili o flaen llaw. Bydd y daith yn para tua 1.5 awr
Cwrdd ym maes parcio Ty Penallta (swyddfeydd y Cyngor), Tredomen.
10:30 Dydd Sadwrn 11/09/2010

Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh
Nosweithiau Cymreig. Dewch i fwynhau siarad a chanu yn Gymraeg! Noson i fwynhau cymdeithasu ac ail gysylltu gyda’n diwylliant cyfoethog Cristnogol Cymreig. Croeso i ddysgwyr a siaradwyr rhugl. Rydym yn cwrdd yn fisol, ar ail nos Lun pob mis.
Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
8:00 Dydd Llun 13/09/2010

Menter Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.
Llyfrgell Caerffili
1:30-3:00yp Dydd Mawrth 14/09/2010

Menter Caerffili
Noson Gwis Cwis y Fenter yn Nhafarn y Capel, Gilfach. Dewch i gymryd rhan yn ein cwis a fydd yn addas i siaradwyr rhugl a dysgwyr. Dewch â thîm neu ymuno ag un ar y noson. Pris: £3 yn cynnwys cwis, brechdanau a sglodion! Cysylltwch â ni ar 01443 820913/emilycole@mentercaerffili.org i gofrestru.
Tafarn Y Capel, Gilfach Fargod
7:30yh Dydd Gwener 17/09/2010

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson