Help / Cymorth

Hysbyseb Prentisiaeth

Prentis Gwaith Ieuenctid
Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid y Basement a Menter Iaith Sir Caerffili
£13,589 - £15,444
Llawn Amser / Cyfnod penodedig
Dyddiad cau : 10/02/2012

Mae’r cynllun Prentisiaeth Cenedlaethol yn swydd sydd wedi’i ariannu yn llawn, sy’n ffocysu ar ddarparu cyfleoedd i’r rheini sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gyda ffocws ychwanegol ar rheini sy’n gadael ysgol, ond gall rhywun o unrhyw oedran ymgeisio.
Mae’r cyllid wedi’i dargedu tuag at unigolion sydd heb gymwysterau yn uwch na Lefel 1 ar y fframwaith Cymwysterau gan fod y swydd wedi’i anelu at berson sy’n gallu dilyn Rhaglen Prentisiaeth Lefel 2/3.
Mae 2 swydd ar gael ar hyn o bryd ac fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar y cyd a gweithwyr ieuenctid cymwysedig o fewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith ieuenctid ac fe fydd angen cwblhau cymwysterau sylfaenol mewn Gwaith Ieuenctid, TG, Sgiliau Sylfaenol a meysydd eraill.

Wrth gefnogi gweithwyr ieuenctid eraill, fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda phobl ifanc eraill er mwyn darparu ystod eang o gyfleoedd gwaith ieuenctid.

Mae’r swydd ar gyfer cyfnod penodedig hyd at fis Mawrth 2013. Mae’r oriau gweithio yn hyblyg ac yn cynnwys gwaith yn ystod y nos ac ar benwythnosau.

Fe fydd un o’r swyddi yn cefnogi gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a chroesawir ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg.

Bwriad y cyfle prentisiaeth hwn yw darparu cefnogaeth cyfoed ar gyfer pobl ifanc eraill oddi wrth bobl ifanc.

Os hoffech sgwrs anffurfiol ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a’r Manyleb Person cysylltwch â Paul O’Neill ar 01443 863197.
Er mwyn cael Ffurflen Gais, Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ewch at wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili www.caerffili.gov.uk
26/01/2012

Cylch Cinio Nadolig, 16 Rhagfyr

Cylch Cinio Nadolig, 16 Rhagfyr
Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn y Nadolig, cynhaliwyd Cylch Cinio Nadolig y Fenter yn nhafarn Pontygwindy, Caerffili eleni.

Roedd Derek wedi addo 10cm o eira y bore hwnnw, ond wrth lwc, roedd hi’n ddiwrnod gweddol braf er ei fod yn oer.

Mwynheuodd pawb yr awyrgylch nadoligaidd, y sgwrsio cyfeillgar a chwarae ag iPad.

Gellir gweld lluniau a dynnwyd yma.

Mae staff ac aelodau pwyllgor y Fenter yn dymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd dda i chi i gyd.
Cylch Cinio Nadolig, 16 Rhagfyr
19/12/2011

Neges Bwysig gan RhAG - Buddugoliaeth!

Bydd cefnogwyr yr iaith Gymraeg wrth eu boddau yn deall bod yr arian y bu RhAG yn ymladd amdano ar gyfer datblygu Sant Ilan yn Ysgol Uwchradd Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau heddiw y byddai £92 miliwn ar gael i Gaerffili ar gyfer amryw brosiectau, a hwn yw'r cynllun sydd ar y brig. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at y fuddugoliaeth hon.
05/12/2011

Gweithgareddau Mudiad Meithrin

* Dewch i Chwarae Aberbargoed, clwb rhiant a phlentyn - arweinydd newydd - Claire, arweinydd Cylch Meithrin Aberbargoed. Dyddiad newydd - bob Dydd Iau, tymor yr ysgol 12.15-1.45pm.

* Dewch i Chwarae Llanbradach, clwb rhiant a phlentyn - arweinydd newydd Teifi. Cwrdd bob yn ail Ddydd Mercher, tymor yr ysgol 10-11am, clwb nesaf 16/11/11.

* Dewch i Chwarae Penyrheol, clwb rhiant a phlentyn - arweinydd newydd Jess. Cwrdd bob yn ail Ddydd Mawrth, tymor yr ysgol 10.15-11.15am, clwb nesaf 08/11/11.

* Dewch i Chwarae Ysgol y Castell, clwb rhiant a phlentyn - arweinydd newydd Jess. Cwrdd bob Dydd Iau, tymor yr ysgol 1-2.30pm.

* Dewch i Chwarae Penwythnos - sesiwn nesaf nos Wener 18/11/11 4-6pm Crossways Caerffili. Parti Plant Mewn Angen.

* Parti Nadolig Dewch i Chwarae 10/12/11 10am-12pm Crossways Caerffili. Dewch i gwrdd a Sion Corn.

* Cylch Meithrin newydd sbon - Parc Waunfawr yn agor Dydd Llun 07/11/11. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Nia Parker 07792948882.
04/11/2011

Hyfforddiant am ddim i Bobl Ddi-waith dros 50 oed

Hyfforddiant am ddim i Bobl Ddi-waith dros 50 oed
Ar hyn o bryd mae Ambiwlans St John Cymru yn cynnig hyfforddiant cyfrifiaduron a chymorth cyntaf i bobl ddi-waith dros 50 oed. I weld os ydych chi'n gymwys i dderbyn hyfforddiant am ddim, cysylltwch â Maria Thomas ar 07990 835 995 neu e-bostiwch maria.thomas@stjohnwales.org.uk
20/01/2012

Cân i Gymru

Cân i Gymru
Mae Cân i Gymru yn chwilio am gyfansoddwyr talentog sydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 2012. Ar wahân i ennill y teitl nodedig caiff ennillydd y gystadleuaeth wobr o £7,500 a chyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Os ydych chi'n cyfansoddi caneuon, neu yn adnabod rhywun sy'n gwneud, cysylltwch ag Avanti Media ar 02920 838149 neu e-bostiwch canigymru@avantimedia.tv i fod yn rhan o'r gystadleuaeth. Y dyddiad cau yw'r 9fed o Ionawr 2012.
12/12/2011

Hwyl a Sbri i bawb yn y Ffair Nadolig

Hwyl a Sbri i bawb yn y Ffair Nadolig
Cynhaliwyd Ffair Nadolig y Fenter yn Llancaiach Fawr ar y 26ain o Dachwedd ac roedd hi'n boblogaidd a llwyddiannus dros ben. Cawsom dros 600 o ymwelwyr a deithiodd o bob ardal yn Sir Caerffili i ddod i'r Ffair. Roedd yr awyrgylch yn hyfryd, gyda dros 25 o stondinau crefft gan bobl leol yn gwerthu anrhegion Nadolig unigryw, sioe hud gan Jase the Ace, Heini o S4C, cerddoriaeth delyn gan Bethan Nia a pherfformiadau gwych gan Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Ysgol Gymraeg Trelyn ac Ysgol Penalltau. Mae'r Fenter yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth i ymweld â'r Ffair, i'r Ysgolion am ddod i berfformio, i'r stondinwyr am ddod â chrefftau hyfryd ac i'r gwirfoddolwyr a'r staff am eu gwaith caled. Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb.
Hwyl a Sbri i bawb yn y Ffair Nadolig
30/11/2011

Cwis Cymraeg yn y Cwrt Rawlin

Cwis Cymraeg yn y Cwrt Rawlin
Daeth griw da i noson gwis y Fenter neithiwr yn nhafarn y Cwrt Rawlin yng Nghaerffili, gan gynnwys pobl leol a myfyrwyr o Goleg Llandrillo ger Y Rhyl. Mae'r myfyrwyr yn ymweld â'r ardal ar hyn o bryd fel rhan o gynllun cyfnewid â Choleg Ystrad Mynach. Emily oedd y gwisfeistres unwaith eto ac roedd gwledd o gwestiynau ar y newyddion, adloniant, chwaraeon, cerddoriaeth a gwybodaeth gyffredinol. Er mwyn dathlu Cwpan Rygbi'r Byd, roedd rownd o luniau i ymwneud â rygbi, gan gynnwys lluniau o wynebau dyfarnwyr a chwaraewyr adnabyddus hen a newydd. Enillwyr y Cwis oedd tîm 'Y Ford Gron' yn sgorio 46 o bwyntiau allan o 51 - da iawn nhw! Gobeithiwn gynnal gwis arall yng Nghaerffili ym mis Ionawr felly cadwch lygad ar wefan y Fenter am ragor o fanylion.
Cwis Cymraeg yn y Cwrt Rawlin
13/10/2011

Rhagor

Digwyddiadau

Sioe Teledu Sion a Siân
18:30
Dydd Sadwrn 04/02/2012
Stiwdio Teledu Croes Cwrlwys, Caerdydd
Mae Sion a Siân, cyfres adloniant newydd S4C, yn chwilio am gynulleidfa ar nos Sadwrn 4 Chwefror a nos Sul 5 Chwefror (6.30 y.h) yn Stiwdio Teledu, Croes Cwrlwys, Caerdydd. Os oes gennych chi ddiddordeb i fod yn rhan o'r gynulleidfa, cysylltwch â Mr Producer drwy e-bost nia@mrproducer.co.uk neu ffoniwch 02920 916667. Ar gyfer grwpiau mawr o bobl, gallwn gyfrannu rhodd tuag at elusen neu fudiad o'ch dewis chi.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 14/02/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Canolfan Cymraeg i Oedolion

Dydd Gwener 17/02/2012
Gwersyll Yr Urdd Llangrannog
Penwythnos Cymraeg i'r Teulu yn Llangrannog! Cyfle i ymarfer siarad Cymraeg fel teulu gyda gwersi a gweithgareddau Cymraeg fel sgïo, beicio, merlota a nofio - penwythnos llawn hwyl i oedolion a phlant. Yn addas ar gyfer dechreuwyr, lefel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a siaradwyr rhugl Am fanylion pellach ffoniwch 01443 483600

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 21/02/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 25/02/2012
Caffi'r Graig, Bedwas
Sadwrn Siarad Bedwas. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr!

Menter Caerffili, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
19:30
Dydd Gwener 02/03/2012
Gwesty'r De Winton, Teras De Winton, Llanbradach, Caerffili
Noson Pennill a Pheint gyda'r Taeogion. Dewch i ddathlu Gŵyl Dewi ac i fwynhau noson arbennig gyda'r beirdd nodedig Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Tudur Dylan Jones. Maent yn teithio dan enw'r Taeogion ac wedi bod yn gadael cynulleidfaoedd ar draws Cymru yn eu dwble gyda'u cyfuniad arbennig o'r dwys a'r dwl. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru. Tocynnau £5 (£4.50 i aelodau Llenyddiaeth Cymru) yn cynnwys bwffe ysgafn o gaws Cymreig.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 13/03/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 20/03/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 31/03/2012
Wetherspoons, Y Coed Duon
Sadwrn Siarad Y Coed Duon. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr!

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 17/04/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 28/04/2012
Parlwr Hufen Iâ Hapus, Machen
Sadwrn Siarad Machen. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr! Gellir gweld map yma

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 08/05/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 15/05/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 12/06/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 19/06/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 23/06/2012
Canolfan Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
Sadwrn Siarad Ystrad Mynach. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr!

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 10/07/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 17/07/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 28/07/2012
Canolfan y Twyn, Caerffili
Sadwrn Siarad Caerffili. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr!

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 14/08/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 21/08/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 11/09/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:30yb-12:00yp
Dydd Mawrth 18/09/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
10:00-12:00
Dydd Sadwrn 29/09/2012
Eglwys Bresbyteraidd Oakdale, Penmaen Ave, Oakdale
Sadwrn Siarad Oakdale. Dewch i gael paned ar fore Sadwrn i siarad Cymraeg gyda siaradwyr a dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb - siaradwyr rhugl a dysgwyr!

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 16/10/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 13/11/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 20/11/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 11/12/2012
Llyfrgell Caerffili
Clwb Darllen Caerffili. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae'r Clwb Darllen yn cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Menter Caerffili
1:30-3:00yp
Dydd Mawrth 18/12/2012
Llyfrgell Y Coed Duon
Clwb Darllen Y Coed Duon. Ydych chi'n mwynhau darllen a thrafod yn Gymraeg? Beth am ymuno â'n clybiau darllen sy'n rhoi cyfle i ddarllen amrywiaeth o bethau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Mae Clwb Darllen Y Coed Duon yn cwrdd unwaith y mis ar fore dydd Mawrth. Cysylltwch â ni er mwyn derbyn pecyn ar gyfer y clwb nesaf.

Bore Coffi Bedwas
10:30 - 11:30
Dydd Llun
Caffi'r Graig / The Rock Cafe, Bedwas
Mae grwp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd pob wythnos ym Medwas i ymarfer Cymraeg, i gymdeithasu ac i chwarae scrabl Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb!



Dydd Iau
Clwb Top, Beddllwynog (Bedlinog)
Clwb Cymraeg Beddllwynog. Mae Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog (Bedlinog) yn cwrdd am 8.00yh bob nos iau DROS YR HAF yn y Clwb Top ym Meddllwynog. Croeso cynnes i bawb

Ymarfer Cymraeg
7:30yh
Dydd Llun
Tafarn y White Hart, Bedwas
Eisiau ymarfer Cymraeg dros yr haf? Bydd grwp anffurfiol yn cwrdd bob nos Llun Drwy'r haf. Croeso i bob level.

Menter Caerffili & Urdd Gobaith Cymru
6:30-8:30yh
Dydd Mawrth
YMCA Bargod, Aeron Place, Gilfach
Clwb Ieuenctid Cymraeg. Dewch i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau: chwaraeon, celf, tripiau, crefft, drama a mwy! Ar gyfer pawb yn Ysgolion Gyfun Cymraeg.

Bore Coffi
10.30-11.30
Dydd Iau
Y Sirhowy, Y Coed Duon
i Ddysgwyr a Siaradwyr Cymraeg

Canolfan Siloh
9:30
Dydd Llun
Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
Gwersi Cymraeg sgyrsiol gyda grŵp anffurfiol a chyfeillgar. Dewch i weithio ar eich sgiliau siarad a thrafod gyda gr?p o ddysgwyr lleol. Lefel: Sylfaen Cost: £15 am 10 wythnos Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ffion Williams ar 01443 813617 / ffionwilliams@btconnec t.com

Côr Cwm Ni
19:00-20:00
Dydd Mawrth
Ysgol Gymraeg Trelyn, Pengam
Ydych chi'n mwynhau canu, cymdeithasu a chwrdd â phobl newydd yn Gymraeg? Beth am ymuno â Chôr Cwm Ni bob nos Fawrth. Croeso i bawb, yn ddysgwyr neu siaradwyr rhugl!

Bore Coffi
10:00-11:00
Dydd Mawrth
Caffi Costa, Caerffili
Cyfle i gwrdd â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg eraill mewn awyrgylch anffurfiol a chroesawgar. Croeso i bawb!

Menter Caerffili
1:30-3:30yp
Dydd Mercher
YMCA Bargod, Aeron Place, Gilfach CF81 8JA
Clwb cyfrifiaduron. Eisiau dysgu sgiliau newydd heb fynychu dosbarth? Dewch i'n clwb cyfrifiaduron ar brynhawn Mercher. Mae'r clwb yn cynnig cyfle i chi fagu'ch hyder wrth ddysgu sgiliau cyfrifiaduron ar gyflymder sy'n eich siwtio chi. Os ydych chi am ddefnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf, neu eisiau trio rhywbeth newydd, mae croeso i chi ymuno â ni yn ein sesiwn anffurfiol wythnosol.

Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh
1:15 - 2:45
Dydd Iau
Canolfan Siloh, Stryd Oakfield, Ystrad Mynach
Mawr a Bach. Grwp dwyieithog i fabanod a phlantos bach. Ymunwch gyda ni i glywed stori y Nadolig, o Dachwedd 3 hyd at Ragfyr 15, yn cynnwys crefft, amser canu, chwarae gyda clai, teganau a llawer o hwyl!! Grwp dwyieithog. Y gost yw dim ond 50c yn cynnwys te/coffi, cacen a ffrwyth.

Menter Iaith Sir Caerffili
08:00-09:00

Clwb Ysgol Gymraeg Caerffili, Clwb Ysgol Gymraeg y Castell, Clwb Ysgol Gymraeg Ifor Bach, Clwb yr Enfys Ysgol Gymraeg Cilfach, Clwb Ysgol Gymraeg Trelyn, Clwb Ysgol Gwmraeg Bro Sannan
Cynlluniau Brecwast cyn ysgol, croeso i blant o ysgolion Cymraeg rhwng 4-11 oed. Cost ddyddiol £2.50 y plentyn.

Menter Iaith Sir Caerffili
15:30-17:30

Clwb Ysgol Gymraeg Caerffili, Clwb Ysgol Gymraeg y Castell, Clwb Ysgol Gymraeg Ifor Bach, Clwb Ysgol Gymraeg Bro Allta, Clwb Ysgol Gymraeg Trelyn, Clwb Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Clwb Ysgol Gymraeg Cwm Derwen.
Cynlluniau ar ôl ysgol, croeso i blant o ysgolion Cymraeg rhwng 4-11 oed. Cost ddyddiol £5 y plentyn

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson