Prosiect Ieuenctid Sir Caerffili
Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf mae Menter Sir Caerffili, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor B.S. Caerffili wedi cyd-ariannu a chyd-reoli prosiect ieuenctid cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc y Sir. Cyflogir Swyddog Ieuenctid llawn amser, sydd wedi ei leoli yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae’r Swyddog yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ar draws y sir tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau ysgol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys teithiau, clybiau chwaraeon a diddordeb yn ogystal â’r clybiau wythnosol canlynol:
Clwb Ieuenctid YMCA Bargoed – Blwyddyn 7+
Pob nos Fawrth 6:30pm-8:30pm (tymhorau ysgol yn unig)
YMCA Bargoed
Clwb Ieuenctid Caerffili - Blwyddyn 7+
Ysgol y Castell, Caerffili
Pob nos Fercher – 6:30pm-8:30pm (tymhorau ysgol yn unig)
Prosiect Gwybodaeth Iechyd i Blant a Phobl Ifanc
Yn dilyn ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc a danlinellodd y diffyg mawr mewn gwybodaeth effeithiol ar faterion iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg, sefydlodd y Fenter prosiect yn arbennig er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc y sir. Erbyn hyn mae’r Swyddog Prosiect yn darparu gweithdai o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â chynlluniau gofal sy’n ymdrin â sawl pwnc iechyd megis addysg rhyw, bwyta’n iach, iechyd meddwl, iechyd emosiynol, cyffuriau ac alcohol, ysmygu a chadw’n heini ymysg eraill. Mae’r prosiect yn darparu rhaglenni gwybodaeth yn ogystal â chefnogi gwaith Ysgolion Iach Cyngor B.S. Caerffili er mwyn sicrhau fod ysgolion Cymraeg y sir yn medru dilyn y Wobr Ysgolion Iach a chynlluniau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r prosiect yn un arloesol ac wedi mynd i’r afael a’r diffyg difrifol mewn gwasanaethau arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Swyddog Prosiect yn medru darparu gwybodaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â chyfeirio unigolion a mudiadau at asiantaethau perthnasol sy’n medru cynnig cymorth yn ogystal.