| Bargoed
Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas
Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn
Fochriw Hengoed Nelson |
Menter
Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place,
Gilfach Fargod, Bargod, CF81 8QE
Ffôn:
01443 820913
|
|
Ieuenctid Menter Caerffili
Mae clwb drama
yn cychwyn ar y 22ain o Fawrth rhwng 10:00 a 12:00am i oedran 11
- 16.
Hefyd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar ôl ysgol bob nos Iau mae
yna clwb i flwyddyn 7&8, ac unwaith yr wythnos amser cinio mi
fydd yna clwb Streetdance yn yr ysgol hefyd.
Rydw
i hefyd yn mynd o gwmpas ysgolion Saesneg Caerffili i wneud gweithgareddau/gweithdai
ail iaith. Croeso i unrhywun sydd am i mi gynnal gweithdy / gweithgareddau
o'r fath yn ei ysgol neu glwb ieuenctid nhw yn ardal Caerffili gysylltu
â mi trwy ebost.
Mi
oedd yna gwrs dawns dros hanner tymor, a mae'r merched gymrodd rhan
am barhau i ddysgu mwy a defnyddio'r hyn maent yn dysgu fel rhan
o brosiect Culturefest ar ddechrau gwyliau'r haf. Fyddent i'w gweld
yn perfformio yn y Big Cheese.
|

Trefnydd: Carly Wilson
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ffordd Gellihaf
Coed Duon
NP12 3JQ
01443 829714 - 07976 003347
Carly@urdd.org |

| Lansio
Project Ieuenctid Menter - Urdd
Cynhaliwyd Noson Gwis y 6ed yn y Cedar Tree ar
nos Fercher Ionawr 23ain a daeth rhai o bwysigion y Cyngor Sir yn
cynnwys y Cadeirydd, y Cynghorydd Angus Donaldson, ac Arweinydd
y Cabinet, y Cynghorydd Lindsey Whittle, i lansio CIC yn Sir Caerffili.
James Williams yw Swyddog Ieuenctid newydd CIC. |
 |
| |
 |
| |
|
| |
|
Rhagor
yn > > www.cicio.net
|