Hanes Ysgol Y Lawnt (Ysgol Gymraeg Rhymni gynt)
Ar ddathlu Deugain Oed yn 1996
LLlNELL AMSER
1950-1 Trefnwyd cyfarfodydd yn y dref gan y Parch Rhys Bowen, gweinidog Moreia, Rhymni ar yr un pryd, gyda chefnogaeth ei gyfaill Idris Davies, y bardd o Rymni. Ymhlith y rhai a fu'n annerch yr oedd Aneurin Talfan Davies, Alcwyn Evans, Norah Isaac, a Raymond Edwards (A E M). Yr oedd y rhain ymhlith sefydlwyr Ysgol Gymraeg Sant Ffransis y Barri. Byddai Idris Davies yn cyfarfod ag Aneurin Talfan wrth fynd i'r BBC i ddarlledu, ac wedi clywed ganddo am lwyddiant Ysgol Cymraeg y Barn yr oedd yn awyddus i weld ysgol debyg yn cael ei sefydlu yn Rhymni. (Er mai yn Saesneg y byddai'n cyfansoddi, yr oedd yn Gymro Cymraeg naturiol.) Roedd nifer o Gymry'r dref yn gefnogol i'r syniad, gan gynnwys gweinidogion y capeli Cymraeg eraill, sef Mr G.R.M.Lloyd (Penuel), Mr I. Beynon (Jerusalem) a Mr Grant (Seion).
1951 Dechrau ysgol wirfoddol ar foreau Sadwrn yn Ysgol Fabanod Uchaf Rhymni. Yr ysgrifennydd oedd Mr Bob Roberts, Seion. Yn bennaf gyfrifol fel athrawes yr oedd Mrs Fay Lloyd (Penuel) gyda chymorth Mrs Heulwen Williams, Miss Rita Owen (gynt), Mrs T. Francis (Pontlottyn), Miss Beatrice May Davies a Miss Morwena Evans. Ymhlith y rhieni oedd yn helpu roedd Mrs Rhiannon Williams a Mrs Onwy Beynon. (Gweler y llun isod)
1955 Ym mis Medi 1955 sefydlwyd dosbarth swyddogol 0 13 o blant yn adeilad Ysgol Fabanod Canol Rhymni o dan reolaeth Cyngor Sir Fynwy. Yr oedd yn fantais bod un o gefnogwyr y fenter, y diweddar Henadur Joseph Williams o Rymni yn aelod o'r Pwyllgor Addysg ar y pryd.
1956-7 Sefydlwyd Ysgo1 Feithrin i fwydo'r Ysgo1 Gymraeg gan y rhieni o Rymni a Thredegar. Dechreuodd yn Festri Seion cyn symud i Festri capel Tabernacl lle bu am flynyddoedd o dan ofal Mrs Nansi Jones a dderbyniai dal bychan drwy gyfraniadau gwirfoddol y rhieni.
1958-1971 Yn ystod y cyfnod dilynol tyfodd yr ysgol, ac ymhlith yr athrawon yr oedd Miss Marion Evans, Miss Maureen Rees, Mrs Heulwen Williams a Mrs Ceinwen Williams.
1971 Trosglwyddwyd adeilad Ysgol Fabanod Canol Rhymni yn gyfangwbl i'r dosbarthiadau Cymraeg. Penodwyd Mrs Heulwen Williams yn brifathrawes ar ymddeoliad Mrs L. Wail. Dathlu penblwydd yr ysgol yn un ar hugain oed
1980-1 Dathlu penblwydd yr ysgol yn bump ar hugain oed. Penodi Mrs Jane Hyde yn brifathrawes ar ymddeoliad Mrs Heulwen Williams. Symudodd yr ysgol i adeilad mwy o faint, sef hen Annexe Ysgol Gyfun Rhymni (Y Lawnt) yn Manest Street.
1991 Symudodd yr ysgol i adeilad Ysgol Gyfun Rhymni, safle'r Lawn ac ailenwyd yr ysgol yn Ysgol y Lawnt.