Enw Tref Ystrad Mynach – gan Glewlwyd Gafaelfawr
Hoffwn gynnig awgrym am darddiad enw tref Ystrad Mynach. Mae’n debyg taw enw’r lle yn wreiddiol oedd Ystrad Fach, ond ceir stori gariad drist am sut cafodd y lle yr enw Ystrad Mynach.
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu castell Caerffili yn 1269 gan Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Normanaidd Morgannwg, er mwyn tynnu’r gwynt o hwyliau’r Cymry lleol a oedd yn bleidiol dros hawliau Llywelyn ap Gruffudd i fod yn dywysog ar Gymru gyfan.
Un o ddisgynyddion Ifor Bach oedd Gruffudd ap Hywel, a lysenwyd "Tew Teg", ac mae’n debyg iddo gwympo mewn cariad anobeithiol gydag Alice de la Marche, a oedd yn wraig i Gilbert de Clare ac yn nith i’r brenin Harri II. Yr oedd Alice yn fenyw ifanc o brydferthwch digyffelyb, tra roedd ei gur yn ddyn sarrug, digllon. Yr oedd hi’n blino ar ei ddiffyg tynerwch tuag ati, a theimlodd ei hun yn ymserchu tuag at y Cymro Gruffudd ap Hywel. Sylweddolodd y ddau y gallai eu cariad gael canlyniadau trychinebus, ond ni allai synnwyr cyffredin orchfygu grym cariad.
Yr oedd cydwybod Alice yn ei phoeni, a phetai ei gur yn cael gwybod am ei chariad tuag at Gruffudd, gallai hyn achosi canlyniadau trychinebus iddi hi yn bersonol, ac ar y sefyllfa wleidyddol fregus rhwng y Cymry a’r goresgynwyr. Cyffesodd ei chyfrinach i fynach yng ngastell Caerffili. Yn anffodus, gur twyllodrus oedd y mynach, a oedd yn awyddus i ennill ffafr Gilbert de Clare, felly bradychodd gyfrinach y cariadon i’r Norman trahaus. Gosodd de Clare bris ar ben Gruffudd ap Hywel, ond yn lle ffoi am ei fywyd, penderfynodd Gruffudd ddial ar y mynach. Daliwyd ef yn ebrwydd gan Gruffudd, a chrogwyd y mynach ar goeden yn y fan lle heddiw saif tref Ystrad Mynach.
Erbyn machlud yr haul y noson honno, daliwyd Gruffudd gan filwyr Normanaidd, ac fe grogwyd y Cymro gan Gilbert de Clare.
Dengys achau Arglwyddi Morgannwg fod Gilbert de Clare ac Alice de la Marche wedi ysgaru yn 1282. Dim ond o dan yr amodau mwyaf eithafol y byddai Iarll yn ysgaru o’i wraig yn y cyfnod, felly mae’n debyg na faddeuodd Gilbert i’w wraig. Anfonwyd Alice yn ôl i Ffrainc, ond torrodd ei chalon o achos hiraeth am ei chariad coll, a bu farw. Dywedir taw ei hysbryd hi yw’r ‘Ddynes Werdd’ a welir o dro i dro ar furiau castell Caerffili, yn sythu yn hiraethlon tua’r gogledd yn aros yn ofer am ei chariad na ddaw eto fyth yn ôl.
Ceir awgrym arall llai rhamantaidd, yr wyf yn ddyledus i J.G. Owen o Gymdeithas Hanes Caerffili amdano, am darddiad enw Ystrad Mynach yn un o gyfrolau yr hanesydd a haearnfeistr G.T.Clark - Cartae et alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia Pertinent (1885-1893), sef ‘Breinlenni a Dogfennau sy’n Berthnasol i Arglwyddiaeth Morgannwg’. Ceir yno gopi o freinlen Lladin o’r ddeuddegfed ganrif yn cofnodi rhodd o dir rhwng Capel Gwladus ac Ystrad Fach gan un o feibion Ifor Bach i fynachod Abaty Margam. Mae’n bosib fod yr enw Ystrad Mynach yn deillio o’r rhodd hyn gan fod y tir wedi ei fwriadu ar gyfer fferm er mwyn cyflenwi bwyd ar gyfer Mynachod Abaty Margam.