Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Robert Earnshaw - Y Byd Wrth Ei Draed

Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd gan Gaerffili dau dîm pêl-droed, ac mae dal nifer o hynafgwyr briglwydion yn y dre' sydd ag atgofion melys am hwyl a chyffro yr ornest leol rhwng Caerphilly Town a Caerphilly United.

Yn ystod y dirwasgiad aeth nifer o ddynion di-waith ati i wneud darn o dir anial yn addas ar gyfer cae pêl-droed lle arferai'r ddau dîm chwarae. Adeiladwyd ystad tai Bondfield Park ar safle'r maes, ac er fod nifer o dimau bach yn yr ardal (yn enwedig tîm Llanbradach sy'n ceisio am ddyrchafiad i Gynghrair Cymru) does neb bellach i'w cymharu â chewri Clwb Pêl-droed Tref Caerffili a Chaerffili Unedig. Er hynny, magwyd nifer o chwaraewyr dawnus yn yr ardal dros y blynyddoedd, ac y mae'n addas fod y diweddaraf o'r llinach ddawnus hyn yn chwarae dros y tîm sy'n cael ei ystyried fel tîm lleol yr ardal bellach, sef Clwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

Ganed Robert Earnshaw yn Zambia yn 1981, ond symudodd ei deulu i Gaerffili pan oedd yn ifanc, a blagurodd ei ddoniau pêl-droed ar feysydd Lansbury Park, Caerffili. Roedd ei botensial yn amlwg, ac yn fuan iawn ymunodd a chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd, yr Adar Gleision. Tybiodd rhai o?r gwybodusion fod 'Earnie', fel y gelwir ef gan gefnogwyr y clwb, yn rhy fach o ran faintioli corfforol i lwyddo fel pêl-droediwr, ond yn fuan argyhoeddwyd pawb fod ei doniau gyda'r bêl a'i gyflymder yn rhinweddau a oedd yn ei wneud yn un o chwaraewyr mwyaf addawol Cymru.

Dywedodd 'Earnie'

"Pan ddes i gyntaf i dde Cymru o Zambia, basech chi byth yn gweld plant yn gwisgo crysau Caerdydd oherwydd roedd y clwb yn cael amser caled yn yr adrannau is. Ond nawr mae'n wahanol, a 'dych chi'n gweld crysau Caerdydd ymhob man. Mae?n deimlad rhyfedd pan dwi?n gweld rhywun yn gwisgo crys gyda fy enw i ar y cefn. Rydw i'n teimlo ychydig yn hunanymwybodol, ond hefyd yn falch iawn."

Mae 'Earnie' yn beryglus iawn o flaen y gôl ac mae wedi sgorio 12 gol y tymor yma yn barod, gan barhau â lwyddiant y llynedd pan sgoriodd 25 gol. Mae ?Earnie? bob amser yn dathlu gyda'i naid trosben nodweddiadol. Dywed 'Earnie'

"Dwi'n gwylio gemau ar y teledu ac yn ceisio dysgu o'r blaenwyr gorau, Owen, Fowler, Henry, Hasselbaink a'r gweddill."

Yn wir, cafodd 'Earnie' y fraint o rannu'r anrhydedd o fod yn brif sgoriwr yng nghystadleuaeth Cwpan yr F.A llynedd, gwobr a rhannodd gyda Thierry Henry o Arsenal. Er hynny, nid chwaraewyr o Uwch-gynghrair Lloegr oedd arwyr 'Earnie' pan oedd yntau'n fachgen. Dywed

"Roeddwn i'n dwli ar wylio chwaraewyr fel Batistuta (cyn chwaraewr Fiorentina, bellach A.S. Roma a'r Ariannin) a Romario (cyn chwaraewr Barcelona a Brasil) a Luis Enrique (Barcelona a Sbaen). Roeddwn i arfer gwisgo crysau gydag eu henwau nhw ar y cefn."

Ei uchelgais ar hyn o bryd yw i chwarae yn yr Uwch-gyngrhair, ac y mae?n gobeithio gallu gwneud hynny gyda Chaerdydd. Y mae sawl clwb mawr wedi dangos diddordeb yn yr athrylith o Gaerffili, ond dywed 'Earnie' :

"Mae gen i dair blynedd a hanner ar ôl o fy nghytundeb gyda Chaerdydd, a dydw i ddim yn bwriadu gadael y clwb".

Gobeithiwn y gall yr Adar Gleision hedfan i frig yr Uwch-gynghrair, a chawn weld 'Earnie' yn cynrychioli ei glwb lleol ar y lefel uchaf, a herio cewri fel Lerpwl, Man U ac Arsenal. Cafwyd naid i'r cyfeiriad hynny gyda buddugoliaeth ddiweddar Caerdydd yng nghwpan yr F.A (cystadleuaeth a enillwyd gan Gaerdydd yn 1927)yn erbyn mawrion Leeds United.

Y mae 'Earnie' wedi ymrwymo ei hun i chwarae dros Gymru, ac y mae eisoes wedi cynrychioli ei wlad fabwysiedig ar y lefel dan 19 a dan 21. Gall ond fod yn fater o amser cyn fod 'Earnie' yn cael dyrchafiad i'r brif dîm cenedlaethol, ac y mae eisoes wedi ymarfer gyda?r brif garfan. Gobeithiwn y cawn un dydd weld 'Earnie' yn cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf mewn cystadleuaeth Pencampwriaethau Ewrop neu Cwpan y Byd.

Ebrill 2003

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson