Braslun o Hanes Clwb Rygbi Caerffili – H.E. Lewis
Ar y 26ain o Awst, 1887, cafwyd adroddiad yn y Monmouthshire Merlin, papur newyddion o Went, am gyfarfod a fu ar y nos Fercher blaenorol yn y ‘Castle Hotel’. Roedd y cyfarfod dan ei sang, oherwydd ei fwriad oedd i sefydlu clwb rygbi yng Nghaerffili. Ffurfiwyd pwyllgor cryf yn cynnwys y swyddogion canlynol :
Llywydd – Mr. T.S. Reynolds, Capten – Mr. Milwin Jenkins, Is-gapten – Mr. A.F. Dinnant, Ysgrifennydd – Mr. H.H.Powell, Trysorydd – Mr. O.E.Woods.
Ceir yr adroddiad cyntaf am gêm yn y South Wales Daily News, ddydd Llun 24ain o Hydref, pan drechwyd St. Andrews, tîm o Gaerdydd. Erbyn y Nadolig yn y tymor cyntaf roedd gan y clwb ail dîm hefyd, a oedd yn chwarae’n rheolaidd. Chwaraeodd y tîm cyntaf ar Barc yr Arfau, lle cafwyd gem ddi-sgor yn erbyn Caerdydd.
Cafwyd adroddiad am gemâu olaf 1887 yn y Western Mail, 10fed o Ragfyr, sef tair gem rhwng Caerffili a Machen. Wedi dwy gêm gyfartal, roedd llawer o ddiddordeb yn y gêm olaf. Dechreuodd y gêm yn brydlon am dri o’r gloch y prynhawn. Ar ôl gem gystadleuol, collodd y ‘Machinites’ o un cais a thair minor i ddim. Y dyfarnwyr oedd Mr. Lewis o Gaerffili a Dr. Thomas o Fachen. Ar ôl y gêm, cafwyd cinio yn y ‘Castle Hotel’. Parhaodd llwyddiant Caerffili i fewn i’r flwyddyn newydd, a cheir adroddiad yn y Western Mail ar y 3ydd o Fawrth , 1888 am gêm rhwng ail dîm Caerffili yn erbyn Bedwas, gyda Chaerffili yn fuddugol o un trosgais a phedwar cais i ddim. Gorffennwyd y tymor mewn tipyn o steil, yn ôl adroddiad y South Wales Daily Telegraph, 11fed o Fai, 1888, gyda Chinio Blynyddol cyntaf y clwb.
Ymgynullodd aelodau Clwb Rygbi Caerffili a’u ffrindiau am ginio mawreddog, a baratowyd gan Mr. a Mrs Coggins, yn y ‘Castle Hotel’. Llwncdestun y noson oedd "Llwyddiant i Glwb Rygbi Caerffili". Ymatebodd yr Is-gapten, Mr. A.F. Dinnant, gan ddatgan fod y clwb wedi chwarae 25 gem, wedi ennill 12, 8 gem gyfartal a cholli ond 5. Dywedodd "Y mae’n foddhaol iawn fod clwb a oedd ond wedi chwarae am un tymor wedi cael canlyniadau mor dda".
Yn y blynyddoedd canlynol byddai Clwb Rygbi Caerffili yn mwynhau sawl tymor o lwyddiant, er y dioddefodd yn enbyd oherwydd dirwasgiad diwydiannol ac effeithiau’r ddau ryfel byd. Byddai sawl llysenw gan y clwb: "Y Cawcis"(The Jackdaws); "Yr Harlecwiniaid" (The Harlequins), "Y Bytheiaid" (The Harriers), "The Premiers", "Gwŷr y Caws" (The Cheesemen) a "Gwŷr Tre’r Castell" (the Castle Town Men). Dros y blynyddoedd byddai’r clwb yn chwarae mewn sawl lleoliad ac yn cael ei ddiwygio sawl gwaith. Cafodd y clwb ei dderbyn dwywaith gan Undeb Rygbi Cymru, yn 1900 a 1955, ac yn y 1950’au hwyr adeiladwyd cartref presennol y clwb ym Mharc Firginia.
Wrth i’r clwb agosáu at ei ganmlwyddiant yn 1987, daeth llwyddiant ar y maes, gan ennill tair pencampwriaeth adrannol yn y gynghrair a chwpan y Rhanbarthau Canol (Mid-District). Cafodd cefnogwyr y clwb eu blas cyntaf o rygbi ar y lefel uchaf yn ystod tymor ei ganmlwyddiant, pan ymwelodd timau Casnewydd, Caerdydd, Pontypridd a’r Crawshays â Pharc Firginia.
Daeth mwy o lwyddiant yn ystod y 1990’au pan gyrhaeddodd y clwb Cynghrair Rygbi Heineken. Dyma’r cyfle i Gaerffili, a oedd bron wedi cyrraedd y brig yn nechrau’r ugeinfed ganrif, i wneud ei marc, a gwneud hanes wrth wneud hynny.
Mor belled, mae Clwb Rygbi Caerffili, a ddisgrifiwyd fel ‘Cinderella’ rygbi Cymru, a thestun balchder Cwm Rhymni, yn dechrau ennill cefnogaeth y cyfryngau, wedi goroesi mympwyon cyfnewidiol rygbi Cymru, ac mewn cyfnod byr o amser wedi cystadlu yn erbyn timau gorau Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal.
Trechwyd timau cenedlaethol Canada a Georgia ym Mharc Firginia. Caerffili oedd y tîm gyntaf o Gymru i gyrraedd wyth olaf cystadleuaeth ‘Tarian Ewrop’, ac maent hefyd wedi cyrraedd wyth olaf Cwpan Cymru ar dri achlysur.
Yn ogystal ag ymdrech glew ar y cae, cafwyd gwelliannau aruthrol i’r maes, a cheir croeso cynnes yn y clwb a threfniant cryf. Yr unig beth sydd angen ar ‘Cinderella’ rygbi Cymru yw ‘Tywysog Swynol’ i gynorthwyo gyda’r gorchwyl o lywio Clwb Tre’r Castell yn hyderus i fewn i’r Unfed Ganrif ar Hugain.
Mae’r hyn a gyflawnwyd yng Ngaherffili yn hanesyddol ac unigryw, ac yn haeddu clod. Gyda chefnogaeth, byddai’r dyfodol yn ddiogel. Dylem ni gofio am y llwncdestun a gynigiwyd yn y ‘Castle Hotel’ ar yr 11fed o Fai, 1888 – "Llwyddiant i Glwb Rygbi Caerffili".
Crynodeb o Hanes Parc Firginia –Cartref Clwb Rygbi Caerffili
Y mae llwyddiant diweddar Clwb Rygbi Caerffili ym Mharc Firginia yn y degawd diwethaf yn ddigon hysbys, ac i’r mwyafrif o aelodau’r Clwb, mae Parc Firginia wastad wedi bod yn gartref y clwb. Nid dyma’r stori lawn, er fod Caerffili wedi chwarae ym Mharc Firginia am yr hanner canrif ddiweddaf.
Wrth edrych yn ôl, gwelwn fod Clwb Rygbi Caerffili, ers ei sefydlu ar yr 25ain o Awst, 1887,wedi defnyddio, ac ymadael â, Pharc Firginia ar sawl achlysur.
Mae’r maes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau pwysig ers i dîm Rygbi Caerffili chwarae yno am y tro cyntaf yn 1887, ac mae nifer o gampwyr wedi ennill eu bara menyn ar y Parc mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ymhell cyn i chwaraewyr rygbi y clwb droi’n broffesiynol.
Yn wir, mae’r rhestr yn ymddangos yn ddiddiwedd – Pêl Droed, Bocsio, rasys ceffylau, rasio beiciau modur (Speedway), trotio, rasys ‘Powder Hall’ ar gyfer y rhedwyr cyflymaf gyda gwobr o £100 – llawer o arian yn y 1920’au, gellid prynu tŷ teras am y swm hynny.
I’r sawl a oedd yn hoffi betio, ceid rasio Milgwn a rasio ysgyfarnogod. Glaniodd yr awyren gyntaf a welwyd yn yr ardal o flaen torf o fwy nag 20,000 o bobl ym Mharc Firginia yn 1912, ond yn anffodus cwympodd yr awyren yn ôl i’r ddaear yn fuan wedyn yn Nhrethomas. Trefnwyd yr ymweliad gan Mr. Coggins a Mr. Brinson. Bu hefyd cystadlaethau bandiau Jazz, gwyliau, arddangosiadau milwrol, arddangosiadau tân gwyllt, carnifalau, a bu hyd yn oed ymweliadau gan boneddigion tramor i’r Parc.
Gorymdeithiodd Keir Hardy, un o wleidyddion mwyaf blaenllaw yr Ugeinfed ganrif, o Ferthyr Tydfil i Barc Firginia i annerch torf o filoedd. Ymwelodd Lloyd George â Chaerffili, ac yn ôl y papurau lleol, ymwelodd y Dywysoges Obelensky - merch Tsar Alexander yr Ail - â’r ‘Old Time Fair’ a gynhaliwyd ym Mharc Firginia ar y 3ydd o Fehefin, 1920. (Bu ei brawd yn chwaraewyr rygbi rhyngwladol dros Loegr, gwaetha’r modd).
Aeth y Parc a’i phen iddi yn ystod dirwasgiad yr 1930’au. Defnyddiodd y Frigâd Dân adfeilion yr eisteddle yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gadw eu hoffer. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel, cyfeiriwyd at Barc Firginia mewn darllediad propaganda gan y Natsi Almaenaidd Lord Haw Haw. Honnodd yntau fod ‘Maes Awyr’ Parc Firginia, Caerffili, wedi ei ddinistrio gan fomiau’r Luftwaffe – ond wrth gwrs doedd dim maes awyr yno! Er hynny, yn ystod yr 1930’au bu cynlluniau i adeiladu Maes Awyr Bwrdeistrefol ar Barc Firginia. Gollyngwyd bomiau gan awyrennau’r Almaenwyr yng nghyffiniau’r Parc, ond ni achoswyd unrhyw ddifrod.
Yn hwyrach ymlaen defnyddiodd milwyr Americanaidd, a leolwyd ger Heol Pontygwindy, y Parc ar gyfer Pêl-fas, Pêl-Droed, ac yn y blaen.
Ymhen rhai blynyddoedd wedi diwedd y rhyfel ail-ffurfiwyd Clwb Rygbi Caerffili, gan ddychwelyd i’w gartref ym Mharc Firginia.
H.E. Lewis, Hanesydd y Clwb ac Aelod am Oes.