Yr Helygen Wylofus -
Cofnodwyd gan Emrys Jones, Ysgol Lewis Pengam,1946
Flynyddoedd maith yn ôl, yr oedd coedwigoedd mawr yn cuddio’r mynydd-dir sydd rhwng afon Sirhywi, i gyfeiriad y dwyrain, ac afon Elyrch, neu y Rhymni, fel y gelwir hi yn awr, tua’r gorllewin. Heddiw, gelwir yr ychydig olion ag y sydd o’r coedwigoedd y Coed Duon. Dlysed oedd y wlad i gyd, yn enwedig ar ôl cyfanheddu’r fro, fel y galwodd ein cyndeidiau y rhandir hwn yr Ardd Ganol.
Ynghanol un o’r llwyni derw y trigai gwraig ryfedd. Yr oedd ei hofn ar holl bobl y fro. Hened oedd fel nas gwyddai neb ei hoedran; hagr hefyd oedd, gan nad oedd yr un teimlad da a daionus yn ei henaid. Hoffach oedd ganddi niweidio na iachau. Credai pawb ei bod mewn cynghrair â’r un drwg.
Ond y gwir yw mai synreg oedd. Ganddi yr oedd hudlath o ddirfawr gyneddfau a galluoedd grymus; â’r hudlath hon gallai gyfnewid dyn neu anifail i’r peth a fynnai. Digiodd geneth hi un diwrnod. Am hyn, cyffyrddodd â hi â’r hudlath, ac a’i cyfnewidiodd o fod yn rhiain brydferth i fod yn ast reibus, nwydog. Gan na throwyd yr ast eto’n ôl yn eneth, bu farw’r ast. Yn ystod ei bywyd, crwydrai yr eneth fel gast reibus hyd lannau’r Elyrch, a llechai mewn ffau yn rhywle lle saif tref Rhymni yn awr. Mor rheibus oedd fel yr ofnai holl bobl y wlad hi; a hyd heddiw, os ca rhywun ofn enbyd, dywedir ei fod fel petai wedi gweld Gast Rhymni; neu gofynnant iddo – "A wyt ti wedi gweld Gast Rhymni?" Yn wir, dywedir fod ei hysbryd wedi crwydro’r fro drwy’r blynyddoedd, a dywed rhai, ar ôl iddynt gael ofn mawr, weld ohonynt Ast Rhymni yn rhywle yn unigrwydd y mynydd.
Trigai hefyd yn y goedwig hon goedwr a elwid Sannan, a chydag ef yr oedd dau blentyn, - ei fab Ieuan, a Meidwen, geneth a gafodd ar gyfrgoll yn crwydro’r goedwig. Efe a’i mabwysiadodd; a chredai Sannan taw merch gwraig a gyfnewidiodd y synreg yn anifail oedd. Ni wyddai y plant hyn, a meddylient taw brawd a chwaer oeddynt. Un diwrnod, tra oeddynt yn mynd i lawr i’r afon Rhymni i bysgota, daeth y synreg i’w cyfarfod. Ni hoffai blant o gwbl, nac unrhywbeth llon a dedwydd, oherwydd hagr a dychrynllyd oedd ei bywyd hi ei hun, a cheisiai ym mhob ffordd i wneud bywydau ei chyd-ddynion felly hefyd. Penderfynodd orfodi iddynt fod yn weision iddi hi ei hun. Gan hynny, gofynnodd iddynt ddyfod i’w bwthyn i gael ychydig o’r danteithion a oedd yno. Heb feddwl fod twyll yn ei chais, aeth y plant; ond, yn lle rhoddi bwyd iddynt, cyffyrddodd hwy â’r hudlath, a chadwodd hwy yno yn gaeth i weini arni hi.
Ar ôl ychydig o amser, deallodd fod Sannan a g?yr Fforest Gwladys yn chwilio am y plant, ac ofnai y byddent yn darganfod Ieuan a Meidwen. Felly aeth â hwy i lawr i lân yr afon Rhymni, ger rhaeadrau’r afon, yn ymyl Pwll y Bêl, ac a’u trodd hwy yn leisiaid.
Felly buont am flynyddoedd lawer yn nofio yn y dwfr grisialaidd o dan y coed hyfryd, cysgodol, a dyfai ar y glannau, a’r rhai a estynnent ei canghennau dros y dwfr; a phob gaeaf, pan deuai yr alwad, nofient i Aber Henfelen, sef môr Hafren. Suddent i ddyfnderoedd ei eigion pan fyddai drycinoedd y gaeaf yn aflonyddu ei donnau. Ymhyfrydent yn lleufer llawen pelydrau’r haul pan fyddai brenin y dydd yn gwenu ar deyrnas Manawyddan. Ar derfyn pob gwanwyn, pan fyddai’r haf yn eu galw, wynebent lifogydd Afon Elyrch drachefn, a dychwelent am yr haf i ymfwynhau eto ym Mhwll y Bêl.
Rhyw ychydig islaw i Bwll y Bêl yr oedd Llys Brenhines y Tylwyth Teg. Un hafddydd, danfonodd y Frenhines un o weision y Tylwyth Teg i bysgota ym Mhwll y Bêl, a daliodd ddau leisiad, sef Ieuan a Meidwen. Gosododd hwy mewn llestr o ddwfr, ac aeth a hwynt at y Frenhines. Pan welodd hi hwynt, dywedodd –
"Dyna leisiaid hyfryd! Gosodwch hwynt mewn cawg grisialaidd o ddwfr i mi eu cadw". Ac felly cadwodd hwynt yn ddiogel mewn cawg mawr, grisial, yn ei llys.
Un boreddydd, yr oedd y coedwr yn sefyll yn y goedwig yn hiraethus dros ben am ei blant. Ochneidiai yn ddwys a dywedodd –
"Gwyn fyd na chawn hyd i Frenhines y Tylwyth Teg. Gallai hi ddychwel fy mhlant i mi".
Eisteddodd i lawr a wylodd yn dorcalonnus. Nid oedd prin wedi llefaru y geiriau pan, yn ddisymwth, safodd Brenhines y Tylwyth Teg o’i flaen. Yr oedd wedi ei gwisgo mewn gwisg o’r sidan mwyaf cannaid a welodd dyn erioed, cannach oedd na’r eira. Disgleiriai a thywynnai golau dwys o’i hamgylch. I lawr un ymyl o’i gwisg rhedai ymylwaith coch, coched a gwrid cynta’r wawr. O’i hamgylch yr oedd gwregys o aur pur wedi ei weithio â mererid arno. Pa le bynnag y rhoddai ei throed wen, tyfai briallen bur yn ôl ei throed. Wrth ei hochr yr oedd ei chi, ac am ei wddf yr oedd torch arian. Dywedodd y frenhines ei bod wedi dod ato ar ei arch i roddi iddo hanes y plant. Dywedodd fel yr oedd wedi gweld y synreg ar y dydd yr oedd wedi caethiwo y plant, ac fel yr oedd hi wedi eu troi yn bysgod ac wedi eu gosod yn yr afon Rhymni. Esboniodd fel y daliwyd hwy gan was y tylwyth Teg, a’i cadwyd mewn cawg yn llys y frenhines. Wedi dweud hyn wrtho, aeth ag ef i’r llys.
Ar ôl cyrraedd yno, trodd y Frenhines y ddau leisiad yn ôl i’w priodol ffurf, ac wele o’i flaen Ieuan a Meidwen. Yr oedd Ieuan bellach yn ?r ieuanc, glan, a Meidwen yn rhiain brydferth. Ar ôl gwneud hyn, trodd y Frenhines at Sannan y coedwr, a meddai wrtho –
"Beth garet i mi wneud drosot?"
"Carwn pe cosbech y synreg" meddai yntau.
" Mi a wnaf", meddai’r Frenhines, " ac a gymeraf yr hudlath oddi wrthi, ac a’i trof yn helygen".
Yr oedd y synreg yn crwydro’r goedwig ar lan yr afon, ac yn union ar arch Brenhines y tylwyth Teg, trowyd hi i fod yn helygen. Ond nid oedd fel un pren arall, oherwydd yr oedd yr hen synreg yn edifarhau am yr hyn yr oedd wedi gwneud. Gan hynny, nid oedd yr un gangen, na’r un brigyn bychan, yn dal i fyny, ond yr oedd y cangau a’r dail yn hongian i lawr, ac yr oedd fel petai yn wylo bob dydd. A hon oedd yr helygen wylofus gyntaf a dyfodd ar lannau’r afon Rhymni.
Yna dywedodd Sannan y coedwr wrth y Frenhines nad ei ferch ef oedd Meidwen, ond geneth yr oedd wedi cael o hyd iddi yn y goedwig. Felly, newidiodd y Frenhines Ieuan a Meidwen yn dywysog ac yn dywysoges, a rhoddwyd yr ardd ganol iddynt. Cymerodd Ieuan Meidwen yn wraig iddo, a hwy a fuont yn byw mewn plas a adeiladwyd gan y Tylwyth Teg ar y fan lle cyfarfuasent â’r synreg.
Y mae rhai o’r hen gerrig a fu ym muriau eu llys i’w gweld hyd heddiw. Gelwir yr adfeilion hyn Carn y Tyla.
Bu Ieuan a Meidwen fyw i oedran teg. Lonnodd yr Ardd Ganol dan deyrnasiad y Tywysog Ieuan. Ond er dedwydded oedd eu bywyd, ni anghofiasant yr amser dreuliasant fel gleisiad yn afon Rhymni ac ym Môr Hafren.