Dr. William Price
Ganed y Dr.William Price yn Ty’nycoedcae, plwyf Rhydri (ger y fan lle heddiw saif y ffatri baent) ar y 4 Mawrth, 1800. Ar wahân i ambell achlysur pryd y cododd gwrychyn ei gymdogion gyda’i arddangosiadau cynnar o noethlymundod, cafodd William Price blentyndod weddol normal, yn trydydd mab i’r Parchedig William Price a’i wraig Mary. Yr oedd teulu tad William y perthyn i’r meistr haearn Nicholas Pryce o Bentyrch.
Ni ddysgodd William Price i siarad Saesneg tan yr aeth i’r ysgol, ym Machen, yn ddeng mlwydd oed. Gadawodd yr ysgol ymhen tair blynedd, ac am y pum mlynedd nesaf bu’n ddisgybl i’r meddyg Evan Edwards yng Nghaerffili.
Aeth o Gaerffili i Lundain, ac yn 1820/1 derbyniwyd ef fel aelod o’r Coleg Llawfeddygol Brenhinol. Dychwelodd i dde Cymru yn 1823, a bu’n feddyg a llawfeddyg yn ardal Nantgarw, Trefforest a Phontypridd.
Gwisgai yn od – clogyn gwyn, wasgod ysgarlad a llodrau gwyrdd, ac am ei ben gwisgai het wedi ei wneud o groen llwynog. Roedd yn adnabyddus fel cymeriad ecsentrig a ymddiddorai mewn derwyddiaeth. Dywedir ei fod yn credu mewn ‘cariad rhydd’ ac yn gweithredu yn ôl y gred honno. Bwytâi llysiau yn unig, dim cig. Er ei fympwyon, yr oedd yn feddyg a llawfeddyg galluog. Condemiodd yr arfer o frechu, arbrofi ar anifeiliaid, crefydd uniongred, y meistri haearn a’r gyfraith.
Yr oedd Dr. William Price yn weithgar dros achos y Siartwyr yn 1839, a bu’n annog glowyr Llanfabon, y Coed-duon a Nantgarw i ymuno â’r achos. Fe ymddengys na fu Price ymysg lluoedd y Siartwyr a ymosododd ar Gasnewydd, o bosib oherwydd anghydweld rhyngddo a John Frost. Er hynny bu’n rhaid i Price ffoi i Ffrainc, wedi ei wisgo fel menyw, am gyfnod wedi’r gwrthryfel. Dychwelodd i Gymru ymhen chwe mis, a defnyddiodd Price y berw derwyddol a oedd yn boblogaidd yn y cyfnod i guddio ei weithgareddau gwleidyddol. Yn Hydref 1840 sefydlodd Siartwyr Pontypridd, o dan arweiniad Dr.Price, fenter gydweithredol o’r enw ‘the Pontypridd Provision Company’ ( y ‘Co-Op’ cyntaf yng Nghymru) er mwyn ffrwyno traha perchnogion y siopau tryc lleol.
Yn y blynyddoedd canlynol bu William Price yn brysur gydag achosion cyfreithiol. Cynhaliwyd achos llys ym Mryste yn 1848 i benderfynu os oedd tad William Price yn ei iawn bwyll yn 1809 pan werthodd 85 erw o dir yn ardal Rhydri, tir yr oedd William a’i frawd Charles yn hawlio fel eu hiawn eiddo. Profodd tystiolaeth nifer o dystion fod y Parchedig Price yn wallgof am y deugain mlynedd olaf o’i fywyd, yn ddiamau. Pan arwyddwyd y dogfennau angenrheidiol yn 1809, bu rhaid gohirio am ddiwrnod gan fod y Parchedig Price wedi dianc drwy neidio allan o’r ffenestr. Enillodd y brodyr eu hachos, ond enynnodd y Dr.Price lid sefydliad Anghydffurfiol y cyfnod gan iddo wneud post-mortem ar gorff ei dad i geisio profi ei ynfydrwydd. Dechreuodd pobl amau os oedd Dr.Price ei hun yn ei iawn bwyll, ac o tua 1853 ymlaen dechreuodd ymgilio i’w fyd bach ecsentrig ei hun. Mae’n debyg y byddai seiciatryddion heddiw yn ei alw yn scitsoffrenig.
Dechreuodd Dr.Price gyfeirio ato’i hun, a’i ferch Gwenhiolen, fel plant yr Arglwydd Rhys (1132-1197), a cheir syniad o’i stad feddyliol a’r syniadau rhyfedd a goleddai am lenyddiaeth o’r hysbysiad Saesneg hwn y gofynnodd i argraffwr ei gyhoeddi yn 1861 –
"All the Greek Books are The Works of the Primitive Bards, in our own Language!!!!!! There is a Discovery for the Cymmerian Race!!!!! Discovered by me in 1839!!!! No man living can form an opinion, or imagine, The consequence of my Discovery Before He shall be taught, by me, to read Homer, The Greek New Testament, or any and all The Greek Classics, which I can do, perfectly, in less than six days!!!!! Homer was born in The Hamlet of Y Van near Caerphilli. He built Caerphilli Castle…the oldest Books of the Chinese confess The Fact!! This looks more like a Dream than a Reality in The absence of Light".
Gofynnodd Dr.Price i’r argraffwr gyhoeddi’r hysbysiad dan y teitl ‘Plant Ywein Lawgoch’. O hyn ymlaen, aeth Dr. Price ati i greu ei chwedloniaeth ei hun yn seiliedig ar ffigurau hanesyddol a’i ddadansoddiad rhyfedd ef o dderwyddiaeth.
Y 18fed o Ionawr, 1884, yw’r dyddiad sy’n sicrhau lle Dr.Price mewn hanes. Wrth i Anghydffurfwyr Llantrisant ddod allan o’r capel ar nos Sul, gwelsant dân y llosgi ar ael y bryn. Dyna lle yr oedd y Dr. William Price, a oedd bellach yn 83 mlwydd oed, yn amlosgi corff marw ei fab bychan pum mis oed, Iesu Grist Price. Ar y tro roedd amlosgi cyrff y meirw yn anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain, ond sefydlodd llwyddiant Dr. Price yn yr achos llys yr hawl gyfreithiol i amlosgi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer Deddf Corfflosgi 1902. Cyn iddo farw yn 92 mlwydd oed, ganed mab a merch arall i’r Doctor gwrol a’i ‘gydymaith’, merch o’r enw Gwenllian Llywelyn. Bu farw ar 23 Ionawr, 1893, yn Llantrisant, a llosgwyd ei gorff, yn unol a’i gyfarwyddiadau manwl, ar ben dwy dunnell o lo.
Am fwy o wybodaeth am Dr.William Price, gweler –
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Paratowyd dan Nawdd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion), Golygyddion – J.E. Lloyd, R.T. Jenkins, Syr William Llewelyn Davies.
Brian Davies – ‘Empire and Identity: The ‘Case’ of Dr William Price’, o A People and a Proletariat- Essays in the History of Wales 1780-1980 (Gol. David Smith), Gwasg Pluto, 1980.
Islwyn ap Nicholas – A Welsh Heretic, Dr William Price, Llantrisant. Gwasg Ffynnon, 1973.