Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Offeiriad Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan - Cofnodwyd gan G.J. Williams, Ysgol Lewis Pengam, 1912.

Saif Eglwysilan ar y mynydd rhwng Abertridwr a Phontypridd. Y mae Abertridwr yng nghwm yr Aber, tua thair milltir a hanner o Gaerffili. Y mae cwm yr Aber yn gul iawn o Benyrheol i Abertridwr, ond yn Abertridwr ymranna’r cwm tua gwahanol gyfeiriadau – y mae un o’r cymoedd tuag at Senghenydd, un tuag at Eglwysilan ac un arall tau Chwmceffyl. Y mae y cwm tuag at Senghenydd yn cael ei alw yn Gwm yr Aber, canys o Gaerffili i Senghenydd un cwm sydd. Felly dim ond dau gwm sydd yn ymrannu allan o Abertridwr. Saif Eglwys Ilan ar ben y cwm, mewn ardal ag oedd yn llawn swyn a rhamant.

Fodd bynnag, yn yr ail ganrif ar bymtheg dewiswyd dyn cyfoethog iawn yn Offeiriad y plwyf. Ymsefydlodd yr Offeiriad yn yr ardal, a chyn bo hir daeth yn adnabyddus iawn yn y cylch. Pob amser byddai rhywun farw, arferiad yr Offeiriad oedd beunydd i ymweled â’r teulu galarus, a phob tro ei gyngor i’r teulu oedd iddynt ddodi holl emau a theganau a phethau mwyaf gwerthfawr y meirw gyda’r corf yn yr arch, ac os gwnaent hyn, y gorffwysai y meirw mewn hedd. Credai y werin mewn pethau felly, ac yn ôl cyngor yr Offeiriad gwnaethant hynny, yn enwedig pan gredent fod yr Offeiriad yn gwybod beth oedd dymuniadau Duw ynglŷn â chladdedigaeth yr ymadawedig. Claddwyd pob un cyfoethog mewn cromen dan yr eglwys. Yr oedd mynediad i’r gromen yn y gangell. Ar y drydedd neu’r bedwaredd noson ar ôl pob claddedigaeth yn yr eglwys, tua chanol nos, gwelwyd golau yn yr eglwys. Pe disgwyliai rhywun i fewn trwy’r ffenestr, gwelai rhyw bethau tu fewn yn debyg iawn i ysbrydion, wedi eu gwisgo i gyd mewn gynnau gwynion, a’u hwynebau yn wyn iawn. Dychrynwyd y gymdogaeth i gyd gan y newydd, ac yr oedd ofn ar bawb i fyned heibio yr eglwys unrhyw amser yn y nos.

Felly yr oedd am amser maith. ‘Doedd neb yn yr ardal yn ddigon dewr i fyned i fewn i’r eglwys i weld beth oedd yn digwydd. Ond un noswaith arhosodd un o weision Ffynnon Rhingyll – y mae Ffynnon Rhingyll rhwng Eglwys Ilan a Phontypridd – yn hwyr iawn gyda’i gyfeillion yn Abertridwr. Dychwelodd adref tua deuddeg o’r gloch, a phan daeth yng ngolwg Eglwys Ilan gwelodd olau yn yr eglwys. Yr oedd yn fachgen anarferol ddewr, a phenderfynodd mynd i weld beth oedd yn mynd ymlaen tu fewn i’r eglwys, er mwyn rhoddi terfyn i’r hen goel a oedd yn y gymdogaeth. Aeth ymlaen at un o’r ffenestri. Syllodd i fewn drwy y ffenestr, a gwelodd bethau wedi ei dilladu mewn gwisgoedd gwynion i gyd, ac yn symud yn debyg iawn i ysbrydion.

Ond nid oedd yn fachgen ofergoelus, ac ni chredodd mai ysbrydion oeddynt. Aeth oddi wrth hon at ffenestr arall, ac yn rhyfedd iawn, yr oedd y ffenestr yma yn gilagored. Dringodd i fyny i drothwy’r ffenestr, ac edrychodd i fewn eto yn fwy manwl, ac yn awr gwelodd yn eglur mai’r Offeiriad a’i ddwy ferch oedd yno. Yn y gangell gwelodd arch wedi ei hagor, a hwythau yn tynnu allan y pethau gwerthfawr, yr oedd teulu yr ymadawedig wedi eu gosod yn yr arch gyda’r corf. Wrth ddisgyn o drothwy y ffenestr, gwnaeth stŵr, a brawychwyd yr Offeiriad a’i ddwy ferch; deallasant fod rhywun yno a daethant allan ar unwaith ag arfau yn eu dwylo, gyda’r amcan o ladd y troseddwr os dalient ef.

Rhedodd y gwas mor gyflym â gallai i gyfeiriad yr amaethdy, lle yr oedd yn was, a hwy a’i dilynasant ef. Ond yr oeddynt yn ennill arno o hyd, oherwydd ysigodd y gwas ei bigwrn wrth redeg, tra yr oedd yn llawn braw, oherwydd yr oedd yn fater bywyd iddo. Daeth at ffrwd fechan, ac yr oedd pont drosti, ar y noson honno yr oedd yn llawn o ddwfr. Meddyliodd beth allasai wneud, oherwydd yr oeddynt yn ennill arno bob cam a elai, a buasent yn sicr o’i ddal cyn y byddai yn cyrraedd yr amaethdy; ac os dalient ef, buasent yn sicr o’i ladd ar unwaith. Daeth cynllun i’w feddwl, a chynllun da ydoedd hefyd, oherwydd bu yn gyfrwng i achub ei fywyd.

Aeth dan y bont, ac yr oedd su y dwfr cymaint fel na s clywodd ei erlidwyr sŵn ei draed. Meddyliasent mai su y dwfr oedd yn boddi sŵn ei draed, ac felly credent ei fod yn rhedeg o’u blaen o hyd. Pan groesont y bont, clywodd y gwas o dan y bont yr Offeiriad yn dweud wrth ei ddwy ferch y buasai’n rhaid iddynt ladd y dyn, ynte y deuai gwarth parhaol arnynt; ac y buasai efe yn colli ei swydd fel Offeiriad, ac felly ei fywoliaeth. Aethant dros y bont ac ymlaen ar ôl y dyn, heb feddwl ei fod yn cuddio o dan y bont. Felly achubodd y gwas ei fywyd.

Aeth adref y ffordd arall, rhag iddo gyfarfod â’r Offeiriad a’i ddwy ferch eto. Bore drannoeth aeth y gwas â dynion eraill gydag ef i’r eglwys. Yno gwelsant yr arch yn agored, a’r corf tu allan i’r arch, fel y gadawodd y periglor ef y noson cynt.

Aethant i dŷ yr Offeiriad, cafwyd y tŷ yn wag , nid oedd yr Offeiriad na neb arall yno. Yr oeddent oll wedi dianc. Oddi ar y noson fythgofiadwy honno, ni welwyd, na chlywyd sôn am yr Offeiriad hwnnw na’i ddwy ferch byth eto.

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson