Y Dderwen Goi – Cofnodwyd gan A.M Lloyd, Ysgol Lewis Pengam,1912.
Rhwng Ystrad Mynach a Llancaiach y mae cae, ac yn ei ganol yr oedd flynyddoedd yn ôl , hen dderwen fawr goi. Gallech weled math o bwll yn ei gwaelod. Dywedai rhai fod ogof o waelod y dderwen i Blas Ystrad Mynach, ac y gallai ddynion ddianc oddi yno yn amser cyfyngdra, heb neb ei gweled. Nid oedd y cae ym mhell o’r amaethdy, lle yr oedd bachgen o’r enw Sion Evan yn byw. Arferai chwarae llawer awr gyda phlant eraill a chysgodi dan ganghennau y dderwen eangfrig hon. Pan oedd yn fachgen, yr oedd yr hen dderwen yn poeni llawer arno, er cael gweled beth oedd yn waelod y twll oedd ynddi, ond ofnai fyned i fewn.
Wedi iddo ddod yn ddyn mawr, penderfynodd fyned i Awstralia, i gael gweled a ddeuai yn gyfoethog yno. Yno y bu am lawer blwyddyn. Wedi iddo gasglu digon o arian, daeth adref am dro i’r hen wlad. Ar ôl iddo ddychwel adref, ni fu yn hir cyn myned i weld yr hen dderwen. Wedi iddo ddod at y fan, penderfynodd i fynd i lawr i’r twll, i gael gweled beth oedd yn y gwaelod, ac a oedd ogof yno.
Meddyliodd nad oedd yn fachgen bach yn awr; meddyliodd na fuasai yn mynd i lawr o’r golwg ynddi, yn awr yr oedd yn ddyn; i lawr yr aeth, a methodd ddod oddi yno. Bu holi a chwilio mawr amdano ym mhob man, ond yn ofer.
Blynyddoedd wedi hyn, syrthiodd yr hen dderwen lawr, ac er arswyd i bawb gwelwyd scwrrwd (sgerbwd) yn gorwedd yng ngheudod y dderwen. Cofiodd rhai am y bachgen aeth i Awstralia, ac a ddaeth yn ôl i ymweld â’r hen wlad; cofiasant hefyd ei fryd am weld beth oedd yng ngheudod y dderwen, a deallasant y modd y diflannodd.