Tylwyth Teg Gelligaer - Cofnodwyd gan A.V.Jenkins, Ysgol Lewis, Pengam, 1912
Un noson aeth herw-heliwyr o Lancaiach i Fynydd Gelligaer i hela cwningod. Gosodasant eu rhwydau dros dyllau y cwningod, a’r sachau yn yr ymyl gerllaw. Ar ôl Hela bron drwy’r nos, aeth yr herw-helwyr i gael eu sachau, a bant a nhw tua Lancaiach. Pan yr oeddynt yn cerdded heibio Gelli-Wellt, dyma lais yn dod o un o’r sachau yn dweud –
"Helo! ‘Mrawd, ble’r wyt ti nawr?"
ac yna lais o sach arall yn ateb –
" Dyma fi ar gefan lleidar".
Cafodd yr helw-herwyr gymaint o ofn fel y gadawsant y sachau syrthio i’r llawr; a ffwrdd a hwy am eu bywydau. Yna daeth y Tylwyth Teg allan o’r sachau yn eu siacedi cochion â chapanau gwyrdd ar eu pennau, a chwerthynasant yn iach am ddychryn yr herw-helwyr ofnus. Nid oedd hyn ond tric ganddynt i gael eu cario o Gelligaer i Gelli-Wellt; ac i gael eu gollwng allan ger y lle oeddynt am fyned iddo.