Enwau Lleoedd
Hoffem ddiolch i Gwynedd Pierce am ei ganiat⤠i ddefnyddio?i erthygl ?Under the Eaves. Some Place-Names in the Rhymney Valley Area? o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Morgannwg, cyfrol XXXVI, fel sylfaen i?r ysgrif hon. Diolch yn ogystal i Hilary M. Thomas, Ysgrifenyddes Anrhydeddus Cymdeithas Hanes Morgannwg.
Myfi, Rhys Gerallt Owen, biau unrhyw wallau yn yr erthygl.
Bargod, Bargoed ? Ystyr arferol Bargod yw ?eaves?. Dengys Gwynedd Pierce fod yr enw yn ymddangos mewn dogfen o?r ddeuddegfed ganrif sy?n cofnodi rhodd o dir yng nghantref Senghennydd i fynachod Abaty Margam. Ceir y gair yn rhan o enwau dwy afon, Berkeu Taf (Bargod Taf) a Bargau Remni (Bargod Rhymni). Mae afonydd a nentydd yn ffurfio ffiniau naturiol, ac mae?n debyg fod y ffurf ?Bargod? yn gallu golygu ffin, a cheir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru ?edge?, ?border?, ?marches? fel ystyr pellach Bargod. Yn 1578 cyfeiriodd Rhys Amheurug, yr hanesydd o?r Cottrel, at aber y ddwy afon fel ?Aber Bargoed?. Y mae hyn yn profi mai nid ffurf fodern lygredig yw Bargoed.
Gilfach Fargoed ? Cilfach ? ?nook, enclave, corner?. Gilfach Fargoed Fawr oedd cartref cangen o deulu Lewis o?r Fan ger Caerffili. Dengys Gwynedd Pierce fel y ceir cofnod amdano yn 1524 fel Kelach vargoyd. Byddai?r sillaf olaf ?oyd yn newid i ?oed yn Cymraeg modern.
Bedwas ? bedw ?birches? + -os.
Bedwellte ? Bod ? aneddle ?dwelling? + enw personol Mellte. c.f Ystradfellte.
Caerffili ? Daw?r cofnod cynharaf o?r enw o Brut y Tywysogion am y flwyddyn 1271, pan ddechreuodd Gilbert de Clare adeiladu?r castell.
Bu caer Rhufeinig ger lleoliad y castell yn y cyfnod o amgylch 75 O.C, sy?n esbonio elfen gyntaf yr enw, ond gorchwyl anos yw penderfynu tarddiad yr elfen ? ffili.
Ceir traddodiadau ym mucheddau?r Seintiau am Ffili, sef mab Cenydd Sant, ond erys ansicrwydd am ddilysrwydd cysylltiadau Cenydd ⒲ ardal. Ceir yr elfen Ffili mewn enwau lleoedd yng Nghernyw a Llydaw lle bu?r Seintiau?n crwydro.
Cefn y Brithdir ? cefn ?ridge?, ?back?+ brith ?variated?, ?mottled? + tir ?land?
Eglwysilan ? Eglwys Ilan Sant. Dengys Gwynedd Pierce fel y ceid ?Merthyr Ilan? fel ffurf gynharach o?r enw, ond pwysleisia fel nad yw?r enw Merthyr bob amser yn cael ei gysylltu ⠭erthyrdod. Daw?r gair yn hytrach o?r gair Lladin Martyrium, sef cell mynach neu gapel ger beddau?r Seint, boed yn ferthyron a?i peidio.
Energlyn ? genau ?jaws? + glyn ?valley?.
Fochriw, Bochriw?r Garn ? boch-ymchwydd + riw ?bryn. ?The bulging hill?. Man geni Cadog Sant.
Gelligaer ? celli ?copse?, ?grove? + caer. ?The grove of (or by) the fortress?.
Gwynllŵg ? Gwynllyw, mab y brenin Glywys. (Rhoddodd Glywys ei enw i?r deyrnas rhwng Gŵyr a?r afon Wysg, Glywysing. Yn ddiweddarach galwyd Glywysing yn Morgannwg, ar ?organ ab Owain (Morgan Hen), brenin y dalaith yn y ddegfed ganrif). Gwynllywiawg>Gwynllŵg.
Llanbradach ? Ni ddaw?r elfen gyntaf o Llan (Sef tir cysegredig ar gyfer claddedigaethau, yn hwyrach daeth i olygu ?Eglwys?), yn hytrach dangosodd Gwynedd Pierce taw?r gair Glan sydd yma, sef Glan Nant Bradach. Mae?n debyg taw enw personol Gwyddelig yw Bradach.
Llancaeach ? Eto, nid Llan ond Glan yw?r elfen gyntaf, felly Glan (Nant) Caeach. > Llancaeach. Nant Caeach oedd yn rhannu Cantref Senghennydd yn ddau, sef Senghennydd Uwch-Caeach ac Is-Caeach.
Machen ? ma (maes) ?meadow? + yr enw personol chein . Mahhayn 1102, Maghein 1439, Machein 1442, Magheyn 1499-1500.
Maesycwmer, Maesycwmwr - Cafwyd y manylion canlynol yn lyfr Gareth Pierce 'Nabod Cwm Rhymni', a llyfr Whitney Jones 'Maesycwmmer: The Hidden Landscape'. Hanes gymharol fer sydd gan bentref Maesycwmer, y mae enw'r pentref ond yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny,ceid rhai enwau gwahanol ar lefydd yn ardal Maesycwmer sy'n hyn nag enw'r pentref ei hun, megis Gellideg (the fair grove). Ceir cyfeiriad yn Adroddiad Rhifwr y Cyfrifiad o 1841 am 'all that part of the Parish of Bedwas (Upper) called Gelly Dege'. Y mae nifer o enwau lleoedd yn yr ardal yn cynnwys yr elfen 'Gelli', megis Gellihaf (the summer grove), a Gwernau (the alder groves). Honnid gan rai y dylid sillafu enw'r pentref fel Maes-y-cymer, sef ' the field of the confluence of streams', ond mewn rhestr ysgolheigaidd o enwau lleoedd a gyhoeddwyd gan Bwrdd y Gwybodau Celtaidd ceir Maesycwmer. Daw'r enw o Maes (field) + cwmwr, sef enw arall am bompren (footbridge). Dywed traddodiadau lleol fel y cwympodd coeden fawr ar draws yr afon ar ?torm ffyrnig, gan ffurfio pompren syml. Defnyddiwyd y bompren hyn gan y Parchedig John Jenkins (Sh?hincyn) - Pregethwr ac arloeswr y wasg argraffu - i groesi'r afon Rhymni i'w dy anghysbell a godwyd ar lan ddwyreiniol yr afon yn 1826. Enwyd y ty yn 'Maesycwmwr House', ac erbyn mapiau degwm 1840 Maesycwmwr oedd yr enw ar y pentref a ddatblygodd gerllaw, a gyda threigl amser amrywiai sillafiad yr enw i Maesycwmer. Bu mab y pregethwr, a elwid yntau yn John, yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Morlaix, Llydaw.
Nelson - Yn ?omer M.Roberts yn ei lyfr Crwydro Blaenau Morgannwg (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1962) enwyd y pentref ar ? dafarn Lord Nelson, a godwyd ar ?goriad y glofeydd cyfagos yng Nglancaeach.
Pontllanffraith ? Pont ?Bridge? + Llyn > Llan ?pool, lake? + braith ?speckled?, ?bridge by the speckled pool?.
Tre penybont llynvraith (1492), tre penbont (1502), Pontllynfraith (1713).
Rhisga, Risca ? O bosib daw?r enw o rhisgau, sef ffurf luosog bosibl rhisg, ?bark?.
Rhymni ? Bu?r afon yn ffin rhwng cantrefi Senghennydd a Gwynllŵg yn yr Oesoedd Canol, a rhwng 1536 a 1972 rhwng Siroedd Morgannwg a sir Fynwy. Cofnodwyd yr enw mewn dogfen o?r ddeuddegfed ganrif fel Rymi, Rhymi , a cheir s?n chwedl Culhwch ac Olwen am ?gast Rhymi?. Mae?n debyg fod yr enw?n perthyn yn y b??r gair Cymraeg rhwmp sef ?auger?, ?borer?, dywed Syr Ifor Williams ei fod yn offeryn a ddefnyddir gan saer coed i wneud tyllau mewn pren. Y mae Gwynedd Pierce yn dod i?r casgliad fod yr afon wedi?i henwi felly oherwydd y modd y mae?n tyllu ei ffordd drwy?r tir.
Senghennydd ? Arferai?r enw dynodi?r Cantref rhwng afonydd Taf a Rhymni, rhwng Bannau Brycheiniog a?r M?Hen enw?r ardal yw Y Cantref Breiniol. Ar ??r Normaniaid goncro?r fro, gelwyd yr ardal rhwng y m? Chefn Onn yn gwmwd Cibwr. Rhannwyd Senghennydd yn ddau, gyda nant Caeach yn ffin rhwng Senghennydd Uwch Caeach a Senghennydd is Caeach.
Bu cryn ddadlau ynglŷn ⠴harddiad yr enw, a mŷn rhai ei gysylltu ⠓ant Cenydd. Cymhlethwyd y ddadl ymhellach gyda?r enwau Seinhenyd, Sain Henydd sy?n ymddangos ym Mrut y Tywysogion, ond credir bellach fod y lle hynny ym Mro Gŵyr.
Tir-phil ? Fferm Phil, Tire Phillipp Gwillim (1536).
Tredegar ? Tref = fferm + yr enw personol Tegyr
Tredelerch, ger Caerdydd ? Tref = fferm ?farm? + yr enw personol Telerch. Credwyd ar un adeg mae?r enw rhamantaidd Elyrch, Eleirch o elyrch,alarch oedd hen enw?r afon Rhymni, ond dangosodd Gwynedd Pierce fod yr enw?n deillio o?r enw personol Telerch.
Ystrad Mynach ? Ystrad ?valley floor? + mynach ?monk?. Ystrad manach 1635, Ystrad y Mynach 1833. Does dim tystiolaeth i gredu y bu mynachlog yn y cyffiniau.