Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Genillyn y Lleidr Llwfr
Genillyn y Lleidr Llwfr a Cheffyl Gelligaer

Cofnodwyd y stori canlynol gan Gwallter Map yn ei lyfr Lladin enwog o straeon o’r Oesoedd Canol ‘De Nugis Curialium’. Cyfieithiwyd y llyfr i’r Saesneg gan M.R.James, a gwyddys i rhai o’r straeon gael ei cyfieithu i’r Gymraeg gan R.T. Jenkins. Yn anffodus nid yw’r fersiwn hynny bellach mewn print, felly maddeuwch i mi am y cyfieithiad canlynol –

Daeth Genillyn o Wynedd i ofyn am loches ym Morgannwg yn nhŷ gŵr o’r enw Traer. Gwisgai’r gogleddwr ffrwyn am ei wddf a sbardunnau am ei wregys. Yr oedd hen Gymru Morgannwg, er yn dlawd, bob amser yn barod i estyn croeso i drueiniaid anghenys. Yr oedd yn ddefod beidio gofyn i’r gwestai pwy ydoedd ac o ble yr hannai tan y trydydd dydd, rhag ofn iddynt gael eu cyhuddo o ddiffyg lletygarwch. Er hynny, wedi cinio darbodus, adroddodd y dieithryn ei hanes i bobl y tŷ:

“Genillyn o Wynedd ydw i, a des i lawr i’r deheuwlad oherwydd enwogrwydd march sy’n cael ei gadw gan ddyn yn y parthau hyn. Cymaint yw ei ofal a’i gariad at y march, er i mi ymdrechu am fis cyfan i’w ddwyn, methiant fu fy ymdrechion i gyd, er fy mod yn cadw’r ffrwyn a’r sbardynnau hyn gyda mi”.

Chwarddodd Traer ac atebodd:

“Does dim syndod fod pobl y de yn ystyried pobl Gwynedd fel llwfrgŵn! Er mwyn ein hanrhydedd, byddai’n well gennym ni ddeheuwyr cael ein dâl a’n lladd mewn ymdrech ddewr, onid ffôl, i ddwyn y march, nac i dindroi am fis cyfan o ddiogi mewn ymgais ofer am wobr mor werthfawr. Mefl ar dy farf am beidio gwrido gan gywilydd am gyfaddef y fath lyfrdra! Dywed pwy piau’r march, a ble y’i cedwir, ac arhosa yma am dridiau gyda fy ngwraig a’m plant fel y bydd modd i ti glywed am fy nghynged, naill a’i fy mod wedi marw yn ogoneddus, neu wedi dychwelyd gyda’r ysbail yn llwyddiannus”.

Dywedodd y gogleddwr:

“Clywais droeon ymffrostion gwag chi ddeheuwyr. Cadwallon, eich Arglwydd, mab Ifor Bach, piau’r march, ac fe’i cedwir ganddo yng Ngelligaer. Trwy gydol y dydd mae’r march yn pori dan ofal ei osgordd milwrol, a gyda’r nos y mae’n cysgu yng ngornel pellaf ei dŷ, gyda’i holl osgordd yn cysgu rhyngddo a’r unig ddrws, a phedwar o’i ryswyr dewraf i’w amddifyn yn cysgu ar frachan (sef carped ysblennydd) ger y tân. Os deu di nôl gyda’r brachan gyda thi ar gefn y march, deg o wartheg gwynnion clustiau cochion fydd dy wobr am y march, a phump yn wobr am y brachan”.

Cydiodd Traer yn y ffrwyn a’r sbardunnau, ac er taw marwolaeth didrugaedd oedd y gosb i unrhyw leidr a ddaliwyd wrth ei anfadwaith, aeth tua Gelligaer i geisio cipio’r march.

Cyddiodd Traer ger y tŷ gan wylio’n ofalus gyda’i lygaid digwsg a chlustfeinio am unrhyw swn o’r tŷ lle cedwid y march. Gan fod y noson mor dywyll, heb olwg o’r seren wannaf yn y ffurfafen i daflu ei olau ar herwgyrch y nos, penderfynnodd Traer fod yr amser i weithredu wedi cyrraedd.

Gwnaeth dwll gyda’i gyllell ger y drws fel bod modd i’w agor. Aeth ar flaenau ei draed at y march ac fe’i rhyddhaodd yn ofalus. Pan gwelodd Traer y pedwar milwr yn cysgu ar y brachan, yr oedd ei ddewrder wedi cyffroi gymaint nes iddo fod mor hy â chlymu pedair cornel y brachan i gynffon y march, a llusgo’r pedwar milwr trwy’r tân enfawr, a’u gadael yn eu ingoedd.

Deffrowyd yr osgordd gan ddiasbedain y milwyr llosgedig, a codwyd gwaedd ac ymlid ar ôl y lleidr a oedd yn dianc ar y march trythyll llamsachus. Yr oedd gwreichion yn tasgu oddi ar y brachan a lusgwyd trwy’r tân, felly ymlidiwyd Traer am ychydig nes iddo ddiffodd y gwreichion, a dihangodd oherwydd trwch dudew y coed a’i guddiau o’r milwyr dig.

Dychwelodd Traer adref yn ddiogel gyda’i ysbail, a derbynniodd y gwartheg gwynnion clustiau cochion fel ei wobr, ond mwy o wobr iddo oedd y clod a’r enwogrwydd a enillodd iddo’i hun am ei ddewrder ar draul Genillyn y lleidr llwfr.

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson