Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Proffwyd Gelligaer
Proffwyd Gelligaer

Yn yr Oesoedd Canol, nid oedd gan Gymru undod gwleidyddol, yn hytrach fe’i rhannwyd mewn i nifer o fân frenhiniaethau. Roedd Morgannwg yn deyrnas led annibynnol hyd at yr Unfed ganrif ar ddeg. Er hynny, roedd y beirdd yn ymwybodol o undod diwylliannol y genedl. Yn Llyfr Taliesin copiwyd cerdd a oedd yn fynegiant o hunaniaeth cenedlaethol Cymru, a’n perthynas â’n cefndryd Celtaidd yn yr Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Enw’r gerdd yw Armes Prydein, a hi yw un o’r cerddi cenedlaetholgar cyntaf yn holl llenyddiaeth Ewrop. Amserwyd y gerdd i tua 930 o.c gan Syr Ifor Williams, un o’r prif awdurdodau ar ein hen farddoniaeth. Yn ôl Syr Ifor Williams, mae’n debyg fod y gerdd wedi ei chyfansoddi gan fynach o Gelligaer yng Ngwm Rhymni. Tua diwedd y gerdd ceir y llinellau canlynol -

‘Poet tywyssawc Dewi yr kynifwyr

Yn yr yg Gelli Kaer am Duw yssyd’

Sef mewn Cymraeg cyfoes (trosiad I.Williams) -

‘Boed Dewi yn dywysog i’n rhyfelwyr

Yn yr ing mae noddfa yng Ngelli Gaer -’

Ystyr ‘Armes’ yw darogan neu proffwydoliaeth, ac roedd darogan yn ddull cyffredin gan yr henfeirdd i geisio codi ysbryd y genedl mewn cyfnodau blin gan rhagweld ailsefydlu hen ogoniant y Brythoniaid. Yn y gerdd ceir beirniadaeth o bolisi Morgan ab Owain (Morgan Hen), brenin Morgannwg, a Hywel Dda- brenin Dyfed a oedd ar fîn ehangu ei awdurdod dros y mwyafrif o Gymru, o dalu gwrogaeth i frenin Lloegr.

Nid Hywel Dda oedd y cyntaf o’r brenhinoedd Cymreig i dderbyn goruchafiaeth brenin Seisnig. Wedi marwolaeth Rhodri Mawr tua 878, ceisiodd ei feibion i barhau â’r ymdrech i greu undod wleidyddol yng Nghymru. Gorfu i nifer o frenhinoedd y Deheubarth a Morgannwg ofyn nawdd gan y brenin Seisnig grymus Alfred rhag cyrchoedd Anarawd ap Rhodri. Ni ddylid ystyried hyn fel gweithred bradychus i’r achos cenedlaethol. Roedd yn well ganddynt cydnabod goruchafiaeth brenin Seisnig oherwydd byddai yntai yn llai tebygol o ymyrryd yn ei bywydau pob dydd nag un o frenhinoedd uchelgeisiol Gwynedd.

Yng nghyfnod y brenin Seisnig Athelstan, gorfodwyd i frenhinoedd Cymru ymostwng iddo, a thalu treth flynyddol o ugain punt mewn aur, trichant mewn arian, a 25,000 o wartheg. Yn ogystal, gosododd Athelstan yr afon Gwy fel ffin Cymru, er mai afon Hafren fu’r ffin cydnabyddiedig cyn hynny.

Doedd y trethi trymion hyn ddim o fodd pawb yng Nghymru, ac yn Armes Prydein ceir mynegiant o farn yr wrthblaid genedlgarol.

Yn y gerdd ceir proffwydoliaeth am gyngrhair rhwng y Cymry, Gwyddyl Iwerddon, Daniaid Dulyn, gwŷr Cernyw, Ystrad Clud (lle bu teyrnas Frythonaidd hyd y 11fed Ganrif), a’r Llydawyr. Yn ôl y bardd byddai’r lluoedd yn ymgynnull o dan faner Dewi Sant -

‘A lluman glan Dewi a dyrchafant’,

er mwyn ceisio torri crib y brenin Seisnig rhyfygus, gormesol.

Yn y flwyddyn 934 ymosododd Athelstan ar yr Alban, ac yn 937 unodd Olaf o Ddulyn, a brenin yr Alban, a brenin Ystrad Clud , eu lluoedd i ymosod ar y brenin Seisnig. Yn wahanol i ddarogan yr Armes, ni yrrwyd y Saeson i’r môr, ond bu frwydr ffyrnig mewn lle o’r enw Brunanburh, lle lladdwyd 5 brenin o blith y cynghreiriaid, 7 Iarll o Iwerddon, a mab brenin yr Alban. Oherwydd polisi Hywel Dda, nid oedd lluoedd y Cymry yn bresennol yn y frwydr, a chwalwyd proffwydoliaeth y mynach o Gelligaer.

Mae’r llawysgrif Y Cwta Cyfarwydd(Peniarth 50), a ysgrifennwyd gan Meurig, trysorydd Llandaf, yn honni fod Morgannwg yn dalaith annibynnol yn 945 pan rhannwyd Cymru yn siroedd gan Hywel Dda. Er hynny, Morgan ab Owain, a rhoddodd ei enw i’r dalaith, oedd yr olaf o’i frenhinoedd i hanu o linach Meurig ap Tewdrig, llinach a fu’n teyrnasu yn y deyrnas ers tua’r flwyddyn 600 o.c. Yn y ganrif cyn y goresgyniad Normanaidd, chwalwyd hen undod Glywysing/Morgannwg, a chafwyd cystadleuaeth waedlyd rhwng ymhonwyr Cymreig am awdurdod ym Morgannwg.

Oherwydd gwrthdaro rhwng Rhys ap Tewdwr, brenin y Deheubarth, a Iestyn ap Gwrgant, brenin Morgannwg, cafodd y Normaniaid esgus i oresgyn Bro Morgannwg yn y 1090’au.

Llyfryddiaeth

John Davies -Hanes Cymru (Llyfrau Penguin, 1992).

R.M. Jones -Ysbryd y Cwlwm : Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth, pennod 2 ‘Crud Cenedlaetholdeb Ewrob’. (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1998).

Syr Ifor Williams (gol.) -Armes Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1955).

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson