Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Capel Gwladus
Capel Gwladus - cofnodwyd gan D.G. Williams

Darllennydd hynaws,

Dyma fersiwn o chwedl Capel Gwladys, fel y cofnodwyd hi gan un o ddisgyblion Ysgol Lewis Pengam yn 1912. Maddeuwch i mi gan fy mod wedi diwygio'r chwedl mewn ambell i le.

Ceir traddodiadau am Gwladys a'i gwr sy'n wahannol i'r chwedl dlos isod ym mucheddau rhai o'r Seintiau Cymreig, fel Buchedd Cadog gan Lifris o Lancarfan, a ysgrifennwyd yn yr Unfed ganrif ar Ddeg, a Buchedd Gwynllyw o'r Ddeuddegfed ganrif. Yn ôl y ffynonellau hyn yr oedd Gwladys yn ferch Brychan Brycheiniog, ac ei gwr oedd Gwynllyw, fab y brenin Glywys, yr hwn a rhoddodd ei enw i Glywysing, sef hen enw am Forgannwg. Roedd mam Gwynllyw yn ferch Ceredig ap Cunedda. Ganed mab i Gwynllyw a Gwladys yng nghyffiniau Fochriw, sef Cadog, un o Seintiau enwocaf Cymru.

Llawer iawn o flynyddoedd yn ôl, cyn i estron ddod yn Arglwydd ar Forgannwg, yr oedd Brân Fendigaid yn byw yng nghastell Morlais. Yr oedd Brân Fendigaid yn frenin Coronog ar holl Ynys y Cedyrn, ond y tecaf bro yn yr holl ynys oedd y gwenwlad rhwng afonydd Taf a Rhymni- a elwid yn yr amser hynny yn yr afon Elyrch. Gan fod Brân fab Llŷr yn frenin ar yr holl ynys ac yn cynnal ei brif lys yng nghastell Morlais, fe elwid Cwm Rhymni yn y dyddiau hynny yn y Cantref Breiniol.

Ym mhlith nifer ei weision yr oedd gŵr ieuanc o Dre Fynwy. Cyn iddo ddod at Brân, lladdwyd ei dad a’i fam. Llwyddodd ef i ddianc, liw nos. Yn llesg a blinedig, gorffwysodd rhyw filltir o Gastell Morlais, ac oherwydd ei flinder syrthiodd i gysgu. Yno y cafwyd trannoeth gan Gwladus, merch Brân. Yr oedd hyhi a’i chwaer, Tydfil yno yn chwilio am lysiau meddygol. Cymerodd Gwladus drueni arno, ac a’i cynorthwyodd i’r castell, gan adael i Tydfil gasglu y llysiau.

Daeth Gwladus i hoffi y llanc glandeg yn ddirfawr, ac ni welodd y dyn ieuanc erioed ferch lanach na Gwladus. Yr oedd beunydd yn cymharu ei gwallt â’r pethau duaf ag a welodd, â’r muchudd, â’r frân, ac felly yn y blaen. Meddyliai fod ei dau lygad yn disgleirio megis sêr Caer Gwydion. Dywedai lawer i air melys wrthi - pan caffai gyfle.

Pan welodd Brân fod Gwladus yn hoffi y llanc, nid oedd yn fodlon o gwbl. Yr oedd ef wedi trefnu priodas rhyngddi a phennaeth o’r Alban - ond ni fynnai Gwladus y pennaeth o’r Alban - hi a fynnai briodi y bachgen o Dre Fynwy. Deallodd Gwladus fod y pennaeth yn teithio o’r Alban i gastell Morlais i’w phriodi, felly penderfynodd ffoi gyda’i chariad liw nos, a phriodi ag ef yng Ngaer-leon. Felly y bu, yn ddiarwybod i neb, cychwynasant un noson ar eu ffordd yno.

Trannoeth,yn ieuenctid y dydd, yr oeddent ar ben mynydd uchel, â’r grug a’r borfa fân y tyfu drosto. Yr oedd yr ehedydd yn canu o lawenydd fod yr haul wedi dychwel eto o’i hannedd yn nhir Annwn. O’u hamgylch roedd y mynyddoedd, y cymoedd a’r coedwigoedd. Tua’r un amser cafodd Brân fod Gwladus a’i chariad wedi dianc- ac yr oedd y pennaeth o’r Alban a’r offeiriad oedd i’w briodi â Gwladus wedi cyrraedd castell Morlais. Yr oeddynt yn ddigllon iawn, a phenderfynasant eu canlyn. Credodd Gwladus na chanlynai ei thad hwy, felly yr oeddynt yn gorffwys.

Roedd y tyngedfennau yn amlwg o blaid Gwladus a’i chariad, oherwydd wrth i’r pennaeth o’r Alban gyrraedd pen y mynydd ar gefn ei farch trythyll, llamsachus, llithrodd carn y ceffyl ar graig a oedd yn wlyb gan wlith y bore, a thaflwyd y pennaeth druan o’i gyfrwy dros ddibyn diadlam, a thorrwyd ei benglog ar y creigiau garw islaw. Ond ni rwystrodd hyn yr helfa. Yn y diwedd, daliodd Brân a’i nifer Gwladus a’i chariad - a dechreuwyd ymladd er cael Gwladus yn ôl i’w thad. Ond rhwystrodd Brân yr ymladd, gan ddweud, oherwydd fod y pennaeth o’r Alban wedi marw, ni rwystrai y briodas. Daeth yr offeiriad o’r Alban ymlaen, ac yn lle priodi Gwladus a’r pennaeth, priododd hi a’r bachgen dewr o Dre Fynwy.

Er coffadwriaeth am y briodas, gorchmynnodd Brân gopi capel yn y fan honno ar y mynydd, lle priodwyd Gwladus, a’i alw ‘Capel Gwladus’. Y mae ei olion i’w gweled heddiw.

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson