Glo Cyntaf Cwm Rhymni - Cofnodwyd gan D.G. Williams
Nid lladd y cawr oedd y peth diwethaf wnaeth Tylwyth Teg Gilfach Fargoed. Ar ôl iddo farw aethant i dŷ y cawr, a daethant â’r arian a’r aur, a phob peth o werth oddi yno, ac oddi wrth ei gariad.. Aethant a hwy i’w hogof. Yno gosodasant yr aur a’r arian wrth draed y Frenhines. Rhannodd y Frenhines ei ysbail yn deg rhyngddynt. Aeth rhyw ddwsin ohonynt yn ffermwyr, a hynny yn agos i dŷ y cawr. Ni arhosant yn hir yno. Yr oedd sawyr cas yn dyfod o gorff y cawr. Penderfynasant gladdu y cawr yn y man lle y lladdwyd ef. Gwnaethant bwll mawr i’w gladdu. Ond roedd y sawyr cas cynddrwg fel y gwnaethant dân oddi amgylch y corf, i’w losgi - er syndod iddynt, aeth y pwll ar dân hefyd. Taflodd y Tylwyth teg ddwfr iddo, ac yn y diwedd, diffoddasant y tân. Penderfynodd un ohonynt fyned i waelod y pwll. Daeth oddi yno â rhywbeth du, nid oedd wedi weled o’r blaen. Claddasant weddillion y cawr yn awr mewn man arall. Yna dywedodd un o’r doethaf o’r Tylwyth Teg -
"Os gwna y pydew du hyn losgi, yn ddiamau, y graig ddu hon sydd yn cynnau".
Felly, gwnaeth i’w fab fyned a pheth adref i’w tân eu hun. Gosodasant y graig ddu ar yr aelwyd, ac wele yr oedd ganddynt dân ardderchog. Yna aeth y gweddill o’r Tylwyth Teg i’r pwll hwn i gael y graig ddu, a’r hon a elwir heddiw ‘Glo’, a thrwy y gaeaf yr oedd ganddynt ym mhob lle ddigon o dan i gadw’n gynnes. Felly mewn canlyniad i ladd y cawr, cafwyd glo gyntaf yng Ngwm Rhymni.