Dewiswch

Cyflwyniad
Glo Cyntaf Cwm Rhymni
Enwau Lleoedd
Y Dderwen Goi
Eglwysilan
Offeiriad Eglwysilan
Dr William Price
Yr Helygen Wylofus
Cawr Gilfach-Fargoed
Capel Gwladus
Proffwyd Gelligaer
Genillyn y Lleidr Llwfr
Tylwyth Teg Gelligaer
Robert Earnshaw - Pêl-droediwr o Gaerffili
Enw Tref Ystrad Mynach
Hanes Clwb Rygbi Caerffili
Hanes Ysgol y Lawnt, Rhymni
Cawr Gilfach-Fargoed
Cawr Gilfach-Fargoed (cofnodwyd gan D.G. Williams)

Ys llawer dydd, nid oedd un ardal â mwy o’r Tylwyth Teg yn byw ynddo, na Dyffryn y Rhymni. Yr oeddynt i’w gweled bob nos oleu leuad , yn dawnsio, a chlywai pob un ag a fynnai sain hyfryd eu canu tra oeddynt yn dawnsio. Ar nawnddydd haf hirfelyn, byddent yn ymolchi ac yn chwarae mewn rhyw lyn neu gilydd. Mor ysgafn oeddynt, fel y gallai’r lleiaf ohonynt ddringo gwellten gwenith i fyny hyd ei phen heb ei thorri. Mor ddedwydd oeddynt, ni wyddent beth oedd galar na phoen, na chystudd na thrallod, hyd nes daeth rhyw hen gawr creulon i fyw yng Ngilfach-Fargoed. Ond nid i’r tŷ presennol y daeth, er fod hwnnw yn hen. Yr oedd ganddo fath o dŵr i fyw ynddo, a gardd yn ei ymyl. Cawr creulon iawn ydoedd, ac un peth a barai lawer mwy o arswyd drwy’r wlad, nag hyd yn oed ei faintioli, oedd y ffon ryfedd a oedd ganddo, a neidr fyw fawr wedi ei thorchi amdani.

Yr oedd y cawr hwn yn elyn mawr i’r Tylwyth Teg, oherwydd yr oedd yn eu dal ym mhob modd ag y gallai, ac yn eu bwyta yn ddihalen. Yna daeth galar a chystudd i anheddau y Tylwyth Teg, trodd ei llawenydd yn ofid, ac ni feiddient fwy ddawnsio na chanu yn eu cylchau pan byddai’n olau leuad y nos; na chwaith ymhyfrydu i nofio mewn llyn yng ngwres tesog yr haf. Yn llawn tristwch cuddient eu hunain yn eu llechfannau llwm, fel na allai’r cawr ei cyrraedd.

Yn y diwedd penderfynodd un ohonynt ladd y cawr, er fod hynny yn groes i gyfraith a moesau’r Tylwyth Teg. Bachgen amddifad ydoedd, gan ddarfod i’r cawr fwyta ei dad a’i fam. Ar ôl iddo feddwl am ffordd i ladd y cawr, dywedodd wrth frenhines y Tylwyth Teg ei fod wedi penderfynu dial marwolaeth ei rieni. Gan fod y bachgen yn un o’r Tylwyth Teg, gwyddai ac y medrau siarad iaith yr adar. Un noswaith, aeth ac ymddiddanodd â gwdi-hw (Tylluan) a oedd yn byw ar ben derwen yn ymyl Pencoed Fawr, Bedwellty, ac a ofynnodd iddi ddweud wrth y gweithwyr am ladd y cawr. Yr oedd ofn yr aderyn ar y gweithwyr. Ceisiodd y bachgen hefyd gan y gweithwyr i ddodi saeth fawr mewn bwa ar ben pren afalau, a oedd tu allan i’r ardd, ac yr oedd y gwdi-hw i ollwng y saeth pan deuai y cawr dan y pren.

Yr oedd y cawr yn caru â gwiddones (gwrach) ; cyfarfyddent bob nos bron, dan y pren afalau hyn. Yr oedd y widdones yn hwyr un noswaith, ac aeth y cawr i gysgu ar y llawr. Pan gysgodd, daeth y gwdi-hw, saethodd y saeth, a lladdwyd y cawr. Yna ehedodd dan ganu, yn ei dull hi, mewn llawenydd, tua Pen Coed Fawr, oherwydd lladdwyd y cawr, ac y rhyddhawyd ei chyfeillion, y Tylwyth Teg, rhag eu hofn. Collodd y gweithwyr eu hofn, a phan ddaeth y widdones, cariad y cawr, lladdasant hithau hefyd; ond cyn iddi farw, dywedodd y dygai pob pren afal a dyfai tu allan i ardd afalau surion byth mwy ar ôl hynny. Dyma paham y mae afalau surion i’w cael. Bu farw y neidr a oedd am ffon y cawr hefyd, gan ofn. Dododd y bachgen flodau i dyfu ar fedd yr hen neidr, a gelwir y blodau hyn yn ‘Flodau Nadredd’ hyd heddiw. Yr oedd y Gwdi-hw yn arfer dod i Gilfach Fargoed pob noswaith olau leuad, o Pen Coed Fawr, i ddangos ei llawenydd; y mae ei disgynyddion yn byw yno yn awr, ac y maent hwythau hefyd yn dod o gwmpas Gilfach Fargoed, i barhau cân gorfoledd yr adar, oherwydd marwolaeth y cawr.

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod CF81 8JA
Ffôn: 01443 820913
.
 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson