gwasanaethau
gwybodaeth

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas
Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place,
Gilfach Fargod, Bargod, CF81 8QE

Ffôn: 01443 820913

 

Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 20 Tachwedd 2003

ADRODDIAD BLYNYDDOL MENTER IAITH BWRDEISTREF SIROL CAERFFILI 2002-2003

ADRODDIAD Y SWYDDOG DATBLYGU
Ehangu - Busnes Ieuenctid Gofal Plant Dysgwyr Digwyddiadau

Bu’r flwyddyn ddiwethaf, sef bedwaredd flwyddyn y Fenter yn gyfnod llwyddiannus iawn ac yn gyfnod o ddatblygu ac ehangu gwaith y Fenter.
Yn ystod y flwyddyn bu’n bosib ehangu gwaith y Fenter ymhellach drwy gyflogi aelodau newydd o staff. O fis Mawrth ymlaen, parhaodd Rhys Wynne yn ei swydd fel Swyddog Cysylltiadau Busnes ar gytundeb llawn amser. Yn ogystal yn sgil grant o Gronfa Allweddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, apwyntiwyd Tracy Reeves fel Swyddog Gofal Plant llawn amser i gefnogi a datblygu ein cynlluniau gofal plant. Fe fydd aelod o staff pellach yn ymuno â’r Fenter ym mis Gorffennaf, pan fydd Helen Williams yn cychwyn fel Swyddog Gweithgareddau a Cyllid. Erbyn hyn felly mae gennym ni tîm o staff gweithgar tu hwnt, yn cynnwys ein Swyddog Datblygu, Lowri Pugh, ein Swyddog Ieuenctid, Carly Wilson a Rhys Owen yn cefnogi eu gwaith fel Rheolwr Swyddfa. Un o’i ddyletswyddau pwysicaf yw paratoi deunydd ar gyfer cylchlythyron y Fenter. Mae e hefyd yn gyfrifol am brawf ddarllen, gwirio a chywiro gwaith y swyddogion eraill. Yn ogystal mae Rhys yn gyfrifol am gyfieithu dogfennau amrywiol, o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, yn cynnwys llythyron, posteri, adroddiadau a dogfennau amrywiol eraill, megis polisïau’r Fenter. Mae ein bas-data sylweddol o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn holl bwysig i’n gwaith, ac mae Rhys hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru’r wybodaeth hyn.
Mae holl staff y Fenter hefyd yn cynorthwyo gyda gweithgareddau amrywiol y Fenter yn ogystal â gweithio o fewn eu meysydd penodol.
Golyga’r apwyntiadau uchod ein bod bellach yn medru cyflawni gwaith sylweddol mewn sawl maes ar draws y sir gyfan.

Mae agweddau amrywiol ein gwaith yn adlewyrchu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â chyrff, sefydliadau ac unigolion eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddo a datblygu defnydd o’r Gymraeg. Hyd yma mae ein prosiectau i gyd wedi’u seilio ar bartneriaethau ac mae’r dull hwn o weithredu wedi ein galluogi i rannu profiadau ac arbenigedd a sicrhau fod cydweithio eang yn digwydd o fewn y sector cyfrwng Cymraeg. Ein gobaith yw gweithredu o fewn meysydd amrywiol megis ieuenctid, dysgwyr, y sector preifat, y sector gwirfoddol, gofal plant, cyfieithu a hyfforddiant. Prif amcan y Fenter felly yw sicrhau defnydd ehangach o’r Gymraeg yn y gymuned gan sicrhau fod gan y Gymraeg statws ymhob agwedd o fywyd a gwaith yr ardal.


Cysylltiadau Busnes
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, lluniwyd arolwg o holl fusnesau’r sir er mwyn dynodi beth oedd statws y Gymraeg o fewn y sector preifat a’r nifer o weithwyr oedd yn medru neu’n dysgu’r Gymraeg. I gyd-fynd â hwn mae’r Swyddog Cysylltiadau Busnes wedi bod yn gweithio’n agos ag amryw o fusnesau er mwyn iddynt sicrhau grantiau gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gyfieithu llenyddiaeth, arwyddion a nwyddau eraill.

Roedd y Fenter yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â busnesau ac i’r perwyl hwn mae’r Swyddog wedi bod yn mynychu cyfarfodydd Fforwm Busnes Caerffili a Siambr Fasnach Bargoed, gan weithio’n agos â busnesau’r sir. Tanlinellodd y gwaith hwn pa mor bwysig ydoedd i annog busnesau i ddod ynghyd i drafod mantais defnyddio’r Gymraeg o fewn y sector preifat. O ganlyniad, bwriedir cynnal cyfres o frecwastau busnes. Bwriad y boreau hyn fydd rhoi cyfle i fusnesau ddod ynghyd i drafod manteision defnyddio’r Gymraeg, i gwrdd â busnesau eraill ac i glywed am lansiad Marc Safon y Fenter. Yn ystod y misoedd diwethaf mae Rhys Wynne wedi datblygu Marc Safon ar gyfer busnesau sy’n gwobrwyo busnesau ar sawl lefel am eu defnydd o’r Gymraeg. Fe fydd sawl busnes felly yn ystod y flwyddyn nesaf yn derbyn Marc Safon y Fenter am eu defnydd o’r Gymraeg. Yn ogystal, bu Rhys Wynne yn weithgar iawn yn datblygu deunyddiau marchnata sy’n rhoi gwybodaeth ar ein gwasanaeth cynghori i fusnesau. Trwy ein gwaith yn y maes hwn, rydym hefyd yn hyrwyddo unrhyw fusnes sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog neu’n gwerthu nwyddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi cynhyrchu arwyddion agor a chau dwyieithog sydd ar gael am ddim i unrhyw fusnesau neu sefydliad.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni hefyd yn gweithio gydag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar brosiect Menter yr Ifanc ac yn cynnal sawl gweithdy o dan brosiect Potentia, Menter a Busnes.

Ieuenctid

Roedd denu ieuenctid y sir i ymwneud â gwaith y Fenter yn hynod bwysig ac yn ganolog i amcanion y Fenter. I’r perwyl hwn datblygwyd Cynllun Ieuenctid Sir Caerffili ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ers Rhagfyr 2002, mae Carly Wilson, ein Swyddog Ieuenctid wedi datblygu sawl prosiect a gweithgaredd i bobl ifanc y sir. Gan fod Carly wedi’i lleoli yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, mae hi wedi bod yn bosib datblygu sawl prosiect. Erbyn hyn mae clwb CIC yn cwrdd yn wythnosol ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 7&8 ac mae aelodau o’r chweched dosbarth yn cynorthwyo i gynnal y clwb. Yn ogystal, cynhelir clwb dawns wythnosol a chlwb drama ar fore dydd Sadwrn.

Mae Carly hefyd yn gweithio’n agos â Gweithwyr Ieuenctid y Cyngor ac yn cynnig gweithgareddau yn y gymuned trwy fysiau’r Cyngor, yr Hub a’r Basement. Yn ystod y flwyddyn nesaf yn ogystal, fe fydd Carly yn datblygu clybiau gweithgaredd yn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg y sir gan hefyd denu pobl ifanc i ddilyn Gwobr Dug Caeredin trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â’r gwaith datblygu hwn a’r gweithgareddau wythnosol dyma fraslun o’r gweithgareddau eraill a drefnwyd yn ystod y flwyddyn.

Gofal Plant

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae datblygiad clybiau gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi bod yn ran ganolog o waith y Fenter. Bu’r Swyddog Datblygu yn gweithio’n agos dros ben â Phartneriaeth Gofal Plant Sir Caerffili a Clybiau Plant Cymru ar geisiadau i’r Gronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer darpariaeth gofal plant yn ysgolion Cymraeg y sir. Erbyn hyn mae clybiau gofal ar ôl ysgol yn rhedeg yn Ysgolion y Castell, Bro Allta, Gilfach a’r Lawnt. Yn ogystal, mae cynlluniau gwyliau yn rhedeg yn Ysgolion Y Castell, Bro Allta, Gilfach a Threlyn. Yn sgil apwyntiad Tracy Reeves, fel Swyddog Gofal Plant ym Mawrth 2003, gall y Fenter gynnig cefnogaeth sylweddol i’r cynlluniau. Yn ogystal, yn dilyn cais llwyddiannus pellach i’r GCN, mae Tracy yn datblygu clybiau brecwast ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau yn cynnig nifer o weithgareddau amrywiol, gwibdeithiau, gweithdai a chyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol. Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch yn ogystal i Fiona Santos ac Alison Wood am eu cymorth a’u cyngor. Yn ogystal â gwaith sylweddol y Fenter yn y broses o sefydlu’r clybiau hyn mae Pwyllgorau Rheoli’r clybiau wedi gweithio’n galed tu hwnt er mwyn i’r clybiau gweithredu’n effeithiol. Rhieni yn bennaf sy’n cynrychioli’r pwyllgorau hyn a dylid talu teyrnged i’r rhieni hyn am eu gwaith a’u brwdfrydedd parhaus.

 

.

 

Braf yw gweld cefnogaeth mor gryf i ddarpariaeth sy’n cynnig amgylchfyd cyfrwng Cymraeg i blant yr ardal. Mae’r clybiau hyn yn ddatblygiad pwysig yn y broses o sefydlu cyfleoedd newydd a gwahanol i blant y sir i ddefnyddio’r Gymraeg. Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch i athrawon yr ysgolion uchod am eu cydweithrediad a’u parodrwydd i gefnogi’r clybiau. Mae cynrychiolaeth y Fenter ar y Bartneriaeth Gofal Plant Caerffili hefyd yn hollbwysig er mwyn denu cyllid ychwanegol at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y sir ac er mwyn sicrhau fod y clybiau yn gweithredu’n effeithiol. Ar hyn o bryd, mae Tracy yn cynllunio ar gyfer tywys y cynlluniau trwy Safon Ansawdd y Bartneriaeth Gofal Plant sy’n golygu bydd y cynlluniau yn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf.

Dysgwyr

Un o brif amcanion y Fenter oedd cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr yr ardal a’r rheini sydd wedi colli hyder wrth siarad yr iaith. Mae’r bobl hyn yn cynrychioli grw^p pwysig iawn ac rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Geraint Wilson Price, Trefnydd Cymraeg i Oedolion y sir er mwyn cynyddu’r gweithgareddau ar gyfer dysgwyr a’r nifer o ddosbarthiadau Cymraeg yn y Gweithle, dan ofal y Swyddog Siân Griffiths. Mae’n holl bwysig ein bod yn cynnig darpariaeth i ddysgwyr y tu allan i wersi fel eu bod yn magu hyder ac yn parhau i ddysgu a defnyddio’r iaith. I’r perwyl hwn rydym wedi bod yn rhan o nifer o foreau i ddysgwyr y sir, yn arbennig sawl Sadwrn Siarad ar eu cyfer. Yn ogystal, mewn cydweithrediad â Sefydliad y Glowyr, trefnwyd sawl Noson i Ddysgwyr. Roedd y nosweithiau yn hynod lwyddiannus a bwriedir trefnu nosweithiau tebyg yn y flwyddyn newydd. Mewn partneriaeth â Chymdeithas y Dysgwyr (CYD) cychwynnwyd Cymdeithas Gymraeg Bargoed ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg. Mae’r grw^p yn cwrdd yn fisol er mwyn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol a threfnir gweithgaredd neu siaradwr gwadd. Derbyniwyd £1000 unwaith eto eleni gan Banc HSBC ac rydym eisoes wedi ail-lansio ein Cynllun Grantiau HSBC i Ddysgwyr. Roedd y cynllun yn hynod lwyddiannus y llynedd ac mae’n bwysig iawn wrth annog dysgwyr i barhau gyda’u dosbarthiadau. I’r perwyl hwn, croesawyd Cheryl Pritchard, dysgwraig yn astudio ar gyfer arholiad I’r swyddfa i gyflawni 20 awr o brofiad gwaith mewn amgylchfyd cyfrwng Cymraeg. Roedd yn braf cael Cheryl fel rhan o’r tîm am gyfnod a rhoi cyfle iddi hi i barhau gyda’i hastudiaethau. Yn ystod y flwyddyn nesaf, pan fydd y Swyddog Gweithgareddau yn cychwyn, bwriedir cynnal boreau coffi wythnosol a misol i ddysgwyr.

Digwyddiadau’r Flwyddyn
· Cinio Gw^yl Dewi yn y Maes Manor.
· Y Caws Mawr
· Diwrnod Hwyl y Bartneriaeth Gofal Plant
· Nosweithiau Cwis
· Nosweithiau Ceilys(Skittles)
· Taith i’r Eisteddfod Genedlaethol
· Noson Gerddoriaeth a Straeon
· Teithiau cerdded

Mae’r Fenter yn rhan o fforwm pwysig Mentrau Morgannwg a Gwent (Menter Sirol Caerffili, Menter Caerdydd, Menter Bro Ogwr a Menter Rhondda Cynon Taf) ac mae’r clwstwr hwn o Fentrau Iaith wedi arwain at nifer o brosiectau ar y cyd ac wedi ein galluogi ni i ymestyn ein gwaith i feysydd newydd. Y fforwm hwn sy’n derbyn arian gan Banc HSBC ar gyfer dysgwyr. Dwy flynedd yn ôl derbyniodd y fforwm grant dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri er mwyn datblygu prosiect cyfieithu cymunedol. Darparodd y grant hwn offer cyfieithu ar y pryd i’r Fenter a bellach rydym yn cyflogi Cyfieithydd Cymunedol i weithio i’r Fenter ond hefyd fe fyddwn yn medru cynnig gwasanaeth y Cyfieithydd i sefydliadau a busnesau amrywiol yn y gymuned. Erbyn hyn mae’r prosiect wedi bod yn gweithredu am ddwy flynedd ac wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Mae nifer helaeth o gyrff preifat a gwirfoddol yn elwa o’r gwasanaeth ac mae’r prosiect yn sicrhau ei bod hi’n hawdd bellach i gyrff gweithredu’n ddwyieithog. Mae’r datblygiadau hyn yn holl bwysig er mwyn ehangu gwaith y Fenter ond hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill.

Yn sicr felly mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld datblygiadau pwysig tu hwnt yng ngwaith y Fenter. Rydym wedi llwyddo i ehangu ein gwaith a chynyddu ein staff. Fe fydd y flwyddyn nesaf yn gweld y gwaith hwn yn parhau a rôl y Fenter yn myned i feysydd newydd yn ogystal. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen gwaith sylweddol mewn nifer o feysydd er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac fe fydd gwaith y Fenter yn parhau i gofleidio cyfleoedd newydd.

Hoffai’r Swyddog Datblygu ddiolch i Bwyllgor Gwaith y Fenter am eu gwaith sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch yn arbennig i’r prif swyddogion Gwyneth Davies ,Ynyr Roberts, Helen Rogers a Luned John, am eu cefnogaeth a’u cyngor parhaus. Bu cyfraniad aelodau eraill y pwyllgor hefyd yn werthfawr tu hwnt, diolch i David Thomas, Alan Gwynant, Pierre Bernhard-Grout, Maureen Potter a Lilian Jones. Mae cefnogaeth y pwyllgor cyfan yn allweddol i lwyddiant swydd y Swyddog Datblygu a rôl y Fenter yn y gymuned. Diolch hefyd i holl staff y Fenter, Rhys Owen, Rhys Wynne, Carly Wilson, Tracy Reeves, Helen Williams, Gwynallt Bowen a Penri Williams am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth a chyngor technolegol, mae Penri wedi datblygu gwefan i’r Fenter. Mae gwasanaeth Penri yn sicrhau bod ein swyddfa yn gweithio’n effeithiol a hefyd ein bod yn medru cynnig gwybodaeth dros y we yn y Gymraeg – cyfrwng sydd bellach yn boblogaidd tu hwnt. Mae e’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr tu hwnt i ni ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad hwn yn fawr iawn.

Hoffai’r Swyddog Datblygu hefyd ddiolch i’r rheini yn lleol y tu allan i’r pwyllgor, a fu mor frwdfrydig ynghylch gwaith y Fenter, athrawon ysgolion y sir, Denzil John, Golygydd Tua’r Goleuni, Ben Jones, swyddogion Urdd Gobaith Cymru a staff amrywiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, staff Mudiad Ysgolion Meithrin, GAVO, CYD, Swyddogion Cymraeg i Oedolion, staff a rhieni y clybiau gofal plant a nifer o wirfoddolwyr eraill.

Diolch yn ogystal i’n cyllidwyr, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Y Gronfa Cyfleoedd Newydd a HSBC am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda chi yn ystod y flwyddyn nesaf.


Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
14 Tachwedd 2002

Prif Weithgareddau 2001-2002
· Adnewyddu'r map o weithgareddau a sefydliadau / mudiadau Cymraeg y Sir, mewn partneriaeth a'r Cyngor Sir.
· Dosbarthu grantiau HSBC i Ddysgwyr y Sir.
· Cynhyrchu cylchlythyron am waith ac amcanion y Fenter.
· Cynnal stondin yn y Caws Mawr.
· Sefydlu cynlluniau gofal plant ar ol ysgol ac yn ystod y gwyliau.
· Trefnu gweithgareddau trwy ein cynllun ieuenctid - Cynllun Ieuenctid Sir Gaerffili, prosiect ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
· Cydweithio gyda Mentrau Morganawg a Gwent a Mentrau Iaith Cymru. Cyfrannu i grwpiau tasg a thrafodaethau'r Parmeriaeth Gofal Plant.
· Datblygu Prosiect Cyfieithu Cymunedol ar y cyd a Mentrau Morgannwg a Gwent.
· Trefnu dwy daith gerdded.
· Trefnu sesiynau hyfforddiant ar ddwyieithrwydd i staff Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a'u cynorthwyo i ddatblygu Cynllun Iaith.
· Trefnu nosweithiau cymdeithasol i ddysgwyr yr ardal.
· Trefnu taith i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhy Ddewi.
· Trefnu dwy Noson Ceilys (Skittles) yng Nghaerf ili.
· Apwyntio Cynorthwy-ydd Marchnata (dros dro) a Swyddog Cysylltiadau Busnes (parhaol) i hyrwyddo'r Gymraeg yn y sector preifat.
· Croesawu Jenny Randerson (Gweinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon, a'r Gymraeg - Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i swyddfa'r Fenter i drafod gwaith y Fenter. · Datblygu gwefan y Fenter.
· Cydweithio a Grwp Deddf (Cynghorau Sir y De Ddwyrain, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Coleg Gwent a Menter Iaith Sirol Caerffilli).
· Codi proffil y Fenter yn y Sir.
· Parhau i ddatblygu ein bas-ddata o siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.
· Datblygu `Digwyddiadur' er mwyn hyrwyddo holl weithgareddau Cymraeg a ddwyieithog yr ardal.
· Trefnu gig Ar Log ar y cyd a Sefydliad y Glowyr.

 

.

Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol

Lowri Pugh, Gwyneth Davies a Helen Rogers

Cynlluniau ar Gyfer 2002-2003
· Parhau i ehangu gwaith y Fenter.
· Ehangu ein gwaith a'r Sector Preifat.
· Trefnu ystod eang o weithgareddau ar gyfer ieuenctid y Sir.
· Trefnu gweithgareddau i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
· Trefnu cinio Gwyl Dewi.
· Cynhyrchu cylchlythyron.
· Cyflogi Swyddog Prosiectau Gwirfoddoli Cymraeg.
· Cyllogi Swyddog Cyllid a Grantiau.
· Cyflogi Swyddog Gofal Plant.
· Sefydlu ail swyddfa i'r Fenter mewn man arall yn y Sir.
· Cydweithio gyda Mentrau Morgannwg a Gwent a Mentrau Iaith Cymru.
· Parhau i ymgynghori a'r cyhoedd er mwyn darganfod y meysydd hanfodol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg.
· Parhau i ymchwilio i ffynonellau cyllid amrywiol.
· Parhau i ddatblygu ein bas-ddata o siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

 

Hyrwyddo'r Gymraeg ym myd Busnes

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut y gall yr iaith Gymraeg fod o fantais i’ch cwmni chi ac yn atyniad gwerthu unigryw, cysylltwch â Rhys Wynne yn Menter Caerffili.

Clybiau Carco

Mae'r Clybiau Carco yn ail-agor ar ôl y gwyliau yn Ysgol Bro Allta, Ysgol y Castell ac Ysgol Gilfach. Bwriedir agor Clwb Carco Ifor Bach mor fuan â phosib. Rydym wrthi’n chwilio am staff i redeg y Clwb – ceir manylion y swyddi yn yr hysbyseb isod.

 

     

 

Cychwyn Menter Iaith Sirol Caerffili

Sefydlwyd Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Rhagfyr 1999 er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y sir ymhob agwedd o fywyd cymunedol. Mae'r Fenter yn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg drwy gydweithio â mudiadau, sefydliadau, busnesau, dysgwyr, ieuenctid ac ysgolion yr ardal. Bwriad y Fenter yw cynyddu cyfleoedd trigolion o bob oedran i ddefnyddio'r Gymraeg mewn amrywiaeth o feysydd.

Rheolir y Fenter gan Bwyllgor Gwaith o unigolion sy'n gweithio neu'n byw yn y sir. Ym mis Mai 2000, apwyntiwyd Lowri Pugh fel Swyddog Datblygu i weithredu gwaith y Fenter.

Mae Menter Iaith Sirol Caerffili yn derbyn cymorth ariannol oddi wrth Cronfa Adfywio'r Gymuned gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grant oddi wrth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gweithgareddau

Erbyn hyn mae'r Fenter yn weithgar iawn mewn amrywiaeth o feysydd a sectorau. Bu'r flwyddyn ddiwethaf, sef blwyddyn cyntaf y Fenter yn gyfnod pwysig a llwyddiannus tu hwnt. Bu'n gyfnod o sefydlu a diffinio rôl y Fenter yn y sir. O ganlyniad ymchwiliwyd proffil y Gymraeg yn yr ardal mewn ymdrech i ganfod gwendidau'r ddarpariaeth ar gyfer yr iaith. I'r perwyl hwn, aethpwyd ati i gwblhau dau brosiect penodol, sef awdit o weithgareddau Cymraeg y sir a bas-data o siaradwyr Cymraeg yr ardal. Bu'r ddau brosiect yn gyfle i gydweithio'n agos a Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn arbennig Swyddog Iaith y Cyngor. Canlyniad y bartneriaeth bwysig hon oedd cynhyrchu gwybodaeth yr awdit ar ffurf map sy'n dangos y ddarpariaeth Gymraeg ymhob sector gymunedol o hamdden i meithrinfeydd a gwersi Cymraeg. Ein targed ar gyfer y bas-data oedd 500 0 enwau ac wedi cyrraedd y targed honno rydym yn parhau i gasglu enwau gan sicrhau fod dysgwyr a siaradwyr Cymraeg y sir yn derbyn gwybodaeth gyson ar weithgareddau, gwasanaethau a phrosiectau'r Fenter.

Ieuenctid

Mewn Partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydym yn datblygu prosiect ar gyfer Ieuenctid yr ardal. Erbyn mis Medi bwriedir cyflogi Swyddog Ieuenctid i gynnig cyngor a gweithgareddau i Ieuenctid y sir.

Dysgwyr

Mae darpariaeth i ddysgwyr yn rhan ganolog o waith y Fenter ac rydym bellach wedi trefnu nifer o weithgareddau cymdeithasol ar eu cyfer mewn ardaloedd gwahanol y sir. Er bod nifer helaeth o wersi ar gyfer dysgwyr y sir, prin yw'r cyfle iddynt gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder wrth wneud hynny. Yn ogystal, mae'r Fenter, fel rhan o Mentrau Morgannwg a Gwent wedi derbyn £1000 i ddosbarthu i ddysgwyr. Y flwyddyn ddiwethaf felly, fe sefydlwyd Cynllun Grantiau Bach HSBC i Ddysgwyr a dosbarthwyd grantiau i dros 40 o ddysgwyr fel cyfraniad at gostau gwersi, costau cyrsiau a deunyddiau. Rydym wedi sicrhau nawdd ar gyfer y flwyddyn hon yn ogystal ag fe fydd y cynllun yn ail gychwyn ar gyfer eleni yn fuan. Mewn cydweithrediad â Swyddog Cymraeg yn y Gweithle rydym hefyd yn annog cyrff a busnesau lleol i ddatblygu gwersi Cymraeg yn y Gweithle.

Gofal Plant

Wrth gydweithio'n agos a Chwarae Teg a Partneriaeth Gofal Plant Sir Caerffili rydym wrthi'n sefydlu clybiau gofal plant ar ôl ysgol yn ysgolion Cymraeg yr ardal. Fe fydd dau yn agor ym mis Medi a dau ychwanegol ym mis Ionawr. Mae'r datblygiadau hyn yn rhan o gynllun y Fenter i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gynlluniau haf a gofal cyn ysgol.

Hyfforddiant a chyngor

Mae Menter Iaith Sirol Caerffili hefyd wedi cynnal sesiynau hyfforddiant Cyfleodd Cyfartal ar gyfer staff y Cyngor Sir, ysgolion a chyrff eraill. Bwriedir ehangu’r hyfforddiant hwn yn y dyfodol agos a'i gynnig I amrywiaeth o gyrff yn y sector preifat a gwirfoddol. Mae'r Fenter hefyd yn gweithredu fel canolfan gwybodaeth ac yn medru cynnig cyngor a chysylltiadau ar gyfer cyrff ac unigolion y sir.

Cysylltwch â Lowri Catrin Pugh, Swyddog Datblygu, 01443 820913 / menter@caerffili.org

Gorffennaf 2001

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

^ Dechrau