gwasanaethau
gwybodaeth

Bargoed Deri Pontllanffraith Rhisga Caerffili Rhymni Bedwas
Ystrad Mynach Senghennydd Llanbradach Machen Trecelyn Abercarn Fochriw Hengoed Nelson

Menter Caerffili
YMCA Bargod,
Aeron Place,
Gilfach Fargod, Bargod, CF81 8QE

Ffôn: 01443 820913

 

Cylchlythyr Ionawr 2002   Cylchlythyr Medi 2001 >

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Gobeithio i chi fwynhau’r Nadolig ac eich bod wedi dychwelyd yn iach i’r gwaith wedi’r wyl. Diolch i bawb a fynychodd Cyngerdd Nadolig Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac a ymunodd gyda’r Fenter am luniaeth wedi’r cyngerdd. Daeth nifer sylweddol i’r festri yng Nghapel Tonyfelin a nododd pawb pa mor dda oedd y cyfle i gwrdd a chael sgwrs. Mae’n bosib y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol wedi llwyddiant y syniad eleni. Hoffwn ddiolch i bwyllgor y Fenter am ei gwaith sylweddol wrth baratoi a darparu’r lluniaeth ac i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a Chapel Tonyfelin am eu cefnogaeth.

Cinio Gwyl Ddewi

Clybiau Carco

Erbyn hyn mae clybiau Carco Bro Allta ac Ysgol y Castell yn ffynnu ac yn llwyddiant ysgubol. Fe fydd Clwb Carco Gilfach yn agor ar gychwyn mis Ionawr a phob lwc felly i staff a rhieni’r Clwb ar gychwyn y prosiect newydd. Bwriedir agor Clwb Carco Ifor Bach mor fuan â phosib. Rydym wrthi’n chwilio am staff i redeg y Clwb – ceir manylion y swyddi yn yr hysbyseb isod.

CIC – Cynllun Ieuenctid Sir Caerffili

Mae ein Swyddog Ieuenctid, James Williams wrthi’n datblygu’r Cynllun hwn ar gyfer ieuenctid oedran uwchradd a hyn, ar draws y sir – ieuenctid iaith gyntaf ac ail iaith. Mae James eisoes wedi ailgychwyn Aelwyd yr Urdd yn yr YMCA yn Gilfach ar gyfer blynyddoedd 7&8. Lansiwyd yr Aelwyd gyda disgo Nadolig a daeth dros 40 o bobl ifanc. Fe fydd yr Aelwyd yn cwrdd pob nos Wener am 7:15-8:45pm. Fe fydd aelodau o 6ed dosbarth Ysgol Cwm Rhymni yn rhedeg y clwb yn ogystal â gweithiwr ieuenctid.

Mae angen pobl i gynorthwyo yn yr Aelwyd felly os oes unrhyw un a diddordeb mewn cynorthwyo yn yr Aelwyd, efallai ar system rota yna cysylltwch a’r Fenter.

Yn ogystal, aeth James i Langrannog am wythnos gyda disgyblion a staff Ysgol Cwm Rhymni. Bu’n gyfle i ddod i adnabod pawb ac erbyn hyn mae rôl bwysig iawn gyda James o fewn yr ysgol.

Fe fydd James hefyd yn gweithio gyda ieuenctid ysgolion Saesneg y sir. I’r diben hwn fe fydd noson gwis ar gyfer 6ed dosbarth yr ysgolion hyn, yn arbennig y rheini sy’n dilyn Cymraeg ar gyfer Lefel A. Fe fydd y cwis yn y Cedar Tree ar nos Fercher Ionawr 23ain am 7:00pm ond fe fydd cyfle cyn i’r cwis cychwyn i ddod cyn y cwis i glywed am CIC a gwaith James.


Swyddi Clybiau Carco

Prif Weithiwr Chwarae i weithio yng Nghlwb Carco Ysgol Ifor Bach,

Dydd Llun – Ddydd Gwener : 3:30pm-6:00pm. £7 yr awr

Dylid cael cymwysterau gofal plant a phrofiad sylweddol o weithio gyda phlant.

Gweithiwr Chwarae i weithio yng Nghlwb Carco Ifor Bach.

Dydd Llun – Ddydd Gwener : 3:30pm-6:00pm. £5 yr awr

Dylid cael profiad o weithio gyda phlant.



MENTER IAITH SIROL CAERFFILI

Cafwyd noson arbennig yng Nghinio Ysblennydd Dydd Gwyl Dewi yn y Neuadd Fawr,

Castell Caerffili ar 28ain Chwefror 2002  am 7:30pm

yn cynnwys cinio 6 chwrs a gwin

Bwyd, adloniant  a twmpath dawns   åä    

 


Am ragor o wybodaeth am waith a digwyddiadau’r Fenter cysylltwch â
Lowri Pugh ar 01443 820913 / menter@caerffili.org

 

Swyddog Datblygu: Lowri Catrin Pugh

YMCA Bargod, Aeron Place, Gilfach Fargod, Bargod, CF81 8QE

e-bost: menter@caerffili.org

Ffôn: 01443 820913

Menter Iaith Sir Caerffili - Elusen Gofrestredig rhif: 1105172 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 5096968

^ Dechrau