| Sefydlwyd
Menter Iaith Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Rhagfyr 1999
er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y Sir ym mhob
agwedd o fywyd y gymuned. Y mae'r Fenter yn hyrwyddo'r iaith
Gymraeg drwy weithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau,
sefydliadau, busnesau, dysgwyr, pobl ifanc ac ysgolion yr
ardal. Amcan y Fenter yw cynyddu'r cyfleoedd i bobl yr ardal
ddefnyddio'r iaith Gymraeg mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Sicrhaodd
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod yr iaith Gymraeg yn cael ei
thrin yn gyfartal â'r iaith Saesneg yn y sector gyhoeddus.
Er nad oes gorfodaeth ar y sector preifat i gynnig gwasanaeth
dwyieithog, mae galw cynyddol am wasanaeth dwyieithog yn y
sector preifat.
Gall
Menter Iaith helpu eich sefydliad gyflwyno gwasanaeth dwyieithog
gan ddefnyddio dulliau syml ac ymarferol yn rhad, neu'n rhad
ac am ddim. Does dim angen i chi newid popeth, dim ond chwilio
am gyfleoedd i gyflwyno gwasanaeth dwyieithog yn raddol. Daw'r
newid bychan hwn â llawer o les i'ch cwmni, a hyd yn oed os
nad yw eich staff yn rhugl yn y Gymraeg, bydd cwsmeriaid yn
gwerthfawrogi eich ymdrechion. |
. |
Manteision
i'r cwmni yw creu ewyllys da a ffyddlondeb ymysg eich cwsmeriaid
presennol, a darparu pwynt gwerthu unigryw fel mantais farchnata
ar gyfer denu cwsmeriaid newydd. Dengys ymchwil fod yn well
gan siaradwyr Cymraeg wneud busnes gyda sefydliadau sy'n cynnig
gwasanaethau dwyieithog.
Y
mae'r Fenter Iaith yn fodlon rhoi cyhoeddusrwydd yn rhad ac
am ddim i sefydliadau sydd yn, neu'n bwriadau cynnig gwasanaeth
dwyieithog. Bydd Menter Iaith Sirol Caerffili yn cynnig cyrsiau
hyfforddiant yn rhad ac am ddim i sefydliadau sy'n darparu
gwasanaeth dwyieithog.
Nid
yw'r Fenter Iaith yn gofyn am unrhywbeth mewn tâl am y gwasanaeth
hwn. Ariennir y Fenter gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Caerffili. Hoffai'r Fenter gynnig cyfleoedd
i bobl o bob oedran gymdeithasu a gwneud busnes drwy gyfrwng
y Gymraeg. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gwasanaeth
dwyieithog a derbyn cyhoeddusrwydd rhad ac am ddim, cysylltwch
â Rhys Wynne drwy ffônio/anfon ffacs at 01443 820913 neu e-bostio
rhyswynne@mentercaerffili.org
|